Zaratán, Villanubla, Fuensaldaña, Cigales, Santovenia de Pisuerga, Cabezón de Pisuerga, Castronuevo de Esgueva, Renedo de Esgueva, Cistérniga, Laguna de Duero, Boecillo, Viana de Cega, Villanueva de Duero, Simancas, Arroyo de la Encomienda, Peñaflor de Hornija, Medina de Rioseco, La Mudarra, Valdenebro de los Valles, Villalba de los Alcores, Mucientes, Robladillo, Torrelobatón, Ciguñuela
Mae Valladolid yn ddinas yng ngogledd-orllewin Sbaen, sy'n brifddinas cymuned ymreolaethol Castilla y León a thalaith Valladolid. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 319,943.
Sefydlwyd y ddinas yn y 12g, a daeth yn brifddinas Teyrnas Castilla ac yna rhwng 1601 a 1606 yn brifddinas Sbaen. Yn 1346 rhoddodd y Pab Clement VI awdurdod i greu Prifysgol Valladolid. Yn 1561 dinistriwyd rhan helaeth o'r ddinas gan dân, ac fe'i hail-adeiladwyd gan y brenin Philip II. Symudwyd y llys brenhinol i Madrid, yna yn ôl i Valladolid am gyfnod, ond wedyn yn 1606 i Madrid eto, yn barhaol y tro hwn. Yn ystod y rhyfeloedd Napoleonaidd, Valladolid oedd y ddinas a ddewisodd y Ffrancwyr fel pencadlys i'w milwyr. Ar 31 Mai1808 cododd y trigolion mewn gwrthryfel yn eu herbyn. Llwyddodd y Ffrancwyr i'w gorchfygu wedi ymladd ffyrnig, ac ni ryddhawyd y ddinad hyd 1812 pan gipiwyd hi gan fyddin dan arweiniad Dug Wellington.