Pymthegfed uwchgynhadledd NATO oedd Uwchgynhadledd Washington, 1999 a gynhaliwyd yn Washington, D.C. ar 24-25 Ebrill 1999. Cynhaliwyd yn ystod Ymgyrch Grym Cynghreiriol, ymgyrch fomio y cynghrair yn Iwgoslafia. Roedd yr uwchgynhadledd yn dathlu pen-blwydd NATO yn 50 mlwydd oed. Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf ers esgyniad Hwngari, Gwlad Pwyl, a'r Weriniaeth Tsiec i'r cynghrair.