AsanaIndiaidd a ddefnyddir mewn ioga yw Upaviṣṭa Koṇāsana (Sansgrit उपविष्टकोणासन), neu Upavistha Konasana neu "Eistedd ar Led[1][2], sydd fel mae'r gair yn ei awgrymu yn asana eistedd mewn
Yn y safle hwn mae'r iogi yn eistedd i fyny gyda'r coesau mor agored ag y bo modd a'r torso'n pwyso ymlaen.[3]
Geirdarddiad
Daw enw'r asana (neu ystym, osgo) o'r Sansgrit उपविष्ट (upaviṣṭa) sy'n golygu "agored", कोण (koṇa) sy'n golygu "ongl", ac आस (āsana), sy'n golygu "osgo neu siap (y corff)".[3]
Nid yw'r osgo arbennig yma i'w gael mewn ioga hatha canoloesol, ond fe'i disgrifir yn y clasur Light on Yoga 1966.[4] Fe'i disgrifir yn annibynnol o dan enw gwahanol, Hastapadasana (Saesneg gwreiddiol: "Hand-to-Foot Pose") yn y Llyfr Ioga Cyflawn Darluniadol (1960) mae Swami Vishnudevananda, yn awgrymu tarddiad hŷn na'r 20g.[5]
Disgrifiad
Gellir mynd i mewn i'r asana yma o dandasana (Y Ffon) trwy i'r coesau bellau oddi wrth ei gilydd, cymaint ag y gellir. Yna gellir gafael ym modiau'r traed gyda'r dwylo, neu gyda gwregys (neu strap) o amgylch pob troed, fel cymorth. Mae'r cefn yn fwaog ysgafn, trwy godi cwtyn y cynffon (y cocsycs), ac mae'r corff yn gogwyddo ymlaen.[2][3][4][6] Yn yr asana gorffenedig, mae'r corff yn pwyso ymlaen nes bod yr ên a'r trwyn yn cyffwrdd â'r ddaear.[3] Gall pobl na allant eistedd ar y llawr mewn dandasana eistedd ar flanced wedi'i phlygu ar gyfer yr ystum.[1]
Amrywiadau
Mae Parsva Upavistha Konasana, yn amrywiad ochr, gyda'r corff yn wynebu un goes, a'r dwylo ill dau yn gafael ar droed y goes honno, heb godi'r glun gyferbyn.[7]
Mae Urdhva Upavistha Konasana, yn debyg i Ubhaya Padangusthasana ond gyda'r coesau ar led. Mae'r bys a bawd yn gafael ym modiau'r traed, y coesau'n llydan agored, yn gwbwl syth, ac wedi'u codi i uchder y pen; mae'r corff yn gwyro'n ôl ychydig i gydbwyso. Gellir ymarfer yr osgo gyda strap neu wregys, o amgylch pob troed os na ellir sythu'r coesau'n llawn yn y safle; gellir hefyd osod blanced wedi'i rowlio y tu ôl i'r pen-ôl i gynorthwyo gyda chydbwyso.[8]