- Gweler hefyd tŷ gwydr
Pencadlys Swyddfa Cymru yn Whitehall, Llundain, yw Tŷ Gwydyr. Fe'i adeiladwyd tua 1772 ar gyfer Syrfëwr Cyffredinol Tiroedd y Goron, Peter Burrell,[1] ac fe enwyd y tŷ ar ôl ei ddisgynyddion, Arglwyddi Gwydyr.[2] Daeth yr adeilad yn swyddfeydd llywodraeth ym 1842[2] ac o 1971 ymlaen lleolwyd y Swyddfa Gymreig (rhagflaenydd Swyddfa Cymru) yno.[1]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Tŷ Gwydyr. Swyddfa Cymru. Adalwyd ar 5 Tachwedd 2014.
- ↑ 2.0 2.1 Bradley, Simon; Pevsner, Nikolaus (2003), London: Westminster, The Buildings of England, 6, London and New Haven: Yale University Press, p. 242