Tŵr mawr haearn yng nghanol Paris yw Tŵr Eiffel (Ffrangegtour Eiffel/tuʀɛfɛl/). Saif ar y Champs de Mars ar lan Afon Seine. Cwblhawyd y tŵr yn 1889 yn ôl dyluniad gan y peiriannydd Gustave Eiffel. Pan gafodd ei adeiladu, Tŵr Eiffel oedd y strwythur uchaf yn y byd. Arhosodd felly tan 1930, pan adeiladwyd Adeilad Chrysler yn Efrog Newydd. Mae'n enwog heddiw fel delwedd symbolaidd o Baris ac o Ffrainc yn rhyngwladol.
Uchder gwreiddiol y tŵr oedd 312 metr, ond gan gynnwys y mast radio ar ei ben mae'n 324 metr (7 metr yn dalach na Pholyn Nebo, y strwythur uchaf yng Nghymru). Erbyn hyn, mae strwythur uwch i'w gael yn Ffrainc, polyn radio y llynges ger Rosnay sydd 357 metr o uchder. Gan mai mast yw tŵr Eiffel, yn hytrach nag adeilad fel y cyfryw, nid yw fel arfer yn ymddangos ar restrau o'r adeiladau uchaf yn y byd. Er enghraifft, yr entrychdy uchaf yn Ffrainc (ers 2011) yw Tour First yn ardal La Défense yn Courbevoie ar gyrion Paris, sydd 231 metr o uchder yn unig.