Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Wcráin

Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Wcráin
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref

Mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Wcráin (Wcreineg: Збірна України з регбі ) yn cynrychioli Wcráin yng nghystadlaethau rygbi'r undeb rhyngwladol dynion. Llysenw'r tîm yw Kozaki, sef Cosaciaid. Maent yn un o’r timau haen 3 yn Ewrop sydd ar hyn o bryd yn cystadlu yn ail adran Pencampwriaethau Rhyngwladol Rygbi Ewrop yn Nhlws Rygbi Ewrop, cystadleuaeth sydd ychydig yn is na Phencampwriaeth Rygbi Ewrop lle mae’r 6 gwlad orau yn Ewrop (heblaw am y timau yn y Chwe Gwlad) yn cystadlu. Nid ydynt wedi cymryd rhan mewn unrhyw Gwpan Rygbi'r Byd eto.

Maent yn lliwiau yn lliwiau baner Wcráin, sef, melyn a glas.

Hanes

Tîm rygbi saith bob ochr Wcráin (melyn a glas) yn erbyn Gwlad Belg, 2008

Chwaraeodd Wcráin eu gêm ryngwladol gyntaf ym 1991 yn erbyn Georgia ar ôl diddymu’r Undeb Sofietaidd, gan golli’r gêm agos 15-19. Chwaraeodd y ddwy wlad eto dridiau’n ddiweddarach, lle enillodd Georgia eto gyda’r sgôr o 6-0. Y flwyddyn ganlynol cyfarfu Wcráin â Georgia unwaith eto ar gyfer cyfres o ddwy gêm, gan golli'r ddwy gêm. Yn eu gêm gyntaf yn 1993 trechasant Hwngari 41-3 am eu buddugoliaeth gyntaf erioed ers eu hannibyniaeth. Dilynwyd hyn gan dair buddugoliaeth arall yn olynol, yn erbyn Croatia, Slofenia ac Awstria. Fodd bynnag, byddai'r rhediad hwn yn dod i ben ym 1994 gyda cholled i Ddenmarc.

Ym 1996 trechodd Wcráin Latfia 19-3; byddai'r gêm yn ddechrau rhediad ennill naw gêm) sef yr hiraf hyd yma. Parhaodd y fuddugoliaethau tan 1998, lle collon nhw i’r Iseldiroedd 13-35. Yn hwyr yn y 1990au, gwelwyd canlyniadau cymysg yn yr Wcrain gan drechu timau fel Gwlad Pwyl a’r Gwerinieth Tsiec, ond collon nhw gemau i rai fel eu cymdogion Rwsia, Georgia a Rwmania.

Chwaraeodd Wcráin yn adran gyntaf Cwpan y Cenhedloedd Ewropeaidd 2005-06, y twrnamaint lle mae'r timau gorau yn Ewrop y tu allan i'r Chwe Gwlad a'r twrnamaint a oedd hefyd yn gwasanaethu fel rhagbrofol ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2007 yn Ffrainc. Collodd yr Wcráin bob un o’u deg gêm a chawsant eu hisraddio i Adran 2A tra o fewn y gemau rhagbrofol, aeth y tri thîm isaf ymlaen i Rownd 4 o gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Ewropeaidd, felly byddai’r Wcráin yn canfod eu hunain yn chwarae yn erbyn Rwsia ddwywaith i benderfynu pwy sy’n mynd drwodd. rownd nesaf y gemau rhagbrofol. Collodd Wcráin y ddwy gêm o 11-25 a 37-17.

Chwaraewyr

Mae'r rhanfwyaf o'r chwaraewyr yn chwarae i dimau Politchnic (sydd yn ninas Odesa), Olym (dinas Kharkiv a Epokha-Polytechnic (Kyiv).

Rhyfel Rwsia ar Wcráin 2022

Lladdwyd Oleksi Tsibko, cyn-gapten y tîm cenedlaethol, LLywydd Undeb Rybi Wcráin, a Maer Dinas Smela, ym mis Mawrth 2022 yn rhan o Rhyfel Rwsia ar Wcráin.[1] Bu farw Oleksi Tsibko, 55, yn ymladd yn erbyn lluoedd Rwseg ger tref Bucha ar 31 Mawrth. Aeth y mabolgampwr, a ddaeth yn llywydd Ffederasiwn Rygbi Wcrain rhwng 2003-2005, ymlaen i wasanaethu fel maer Smela o 2015-2018. Bu seremoni ffarwel er anrhydedd iddo gael ei chynnal ym mynwent Baykove Kyiv.[2]

Darlledwyd ffilm ar effaith ac ymateb chwaraewyr rygbi Wcráin ar sianel Youtube World Rugby gan ddangos y cefnogaeth cafwyd gan wledydd eraill.[3]

Cwpan y Byd

Record Cwpan y Byd Rhagbrofion Cwpan y Byd
Blwyddyn Cymal P W D L F A P W D L F A
AwstraliaSeland Newydd 1987 Rhan o'r Undeb Sofietaidd: ddim yn wlad annibynnol Rhan o'r Undeb Sofietaidd: ddim yn wlad annibynnol
Y Deyrnas UnedigIrelandFfrainc 1991 Rhan o'r Undeb Sofietaidd: ddim yn wlad annibynnol Rhan o'r Undeb Sofietaidd: Ddim yn annibynnol
De Affrica 1995 Heb gystadlu Heb gystadlu
Cymru 1999 Heb gymwyso 8 6 0 2 274 108
Awstralia 2003 4 3 0 1 100 54
Ffrainc 2007 12 0 0 12 105 618
Seland Newydd 2011 10 5 0 5 150 203
Lloegr 2015 10 5 0 5 267 228
Japan 2019 5 0 0 5 52 215
Ffrainc 2023 Gwaredwyd yn awtomatig
Cyfanswm 0/9 0 0 0 0 0 0 49 19 0 30 948 1426

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.