Tywysogaeth Ryazan

Tywysogaeth Ryazan
Map o Rws Kyiv ym 1237, gan ddangos tywysogaethau Ryazan a Murom yn las, gyda Vladimir-Suzdal i'r gogledd, Chernigov i'r gorllewin, a llwyth y Mordfiniaid i'r dwyrain.
Mathgwlad ar un adeg, Tywysogaeth, teyrnas Edit this on Wikidata
PrifddinasStaraya Ryazan, Ryazan Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1097 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Church Slavonic Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth

Un o dywysogaethau'r Rws yn Nwyrain Ewrop oedd Tywysogaeth Ryazan a fodolai o 1129 i 1521. Cychwynnodd fel tiriogaeth yn ne-ddwyrain Rws Kyiv, a ymrannodd oddi ar Dywysogaeth Chernigov ym 1127 ar ffurf Tywysogaeth Murom-Ryazan dan arweiniad Yaroslav, mab Svyatoslav, Uchel Dywysog Kyiv. Ym 1129, rhennid Murom a Ryazan yn ddwy, dan dywysogion gwahanol. Byddai Ryazan yn ymdrechu i gadw ei hannibyniaeth oddi ar dywysogaethau Chernigov a Vladimir-Suzdal', yn enwedig yn erbyn ymyrraeth wleidyddol gan Andrei Bogoliubskii a Vsevolod III, Tywysogion Vladimir. Sefydlwyd esgobaeth yn Ryazan ar wahân i Chernigov ym 1198, ond yn gyffredinol parhaodd Tywysogaeth Ryazan yn ddarostyngedig yn wleidyddol i Vladimir-Suzdal.[1]

Safai ei phrifddinas gyntaf, Hen Ryazan, ar lannau Afon Oka, rhyw 150 milltir (240 km) i dde-ddwyrain Moscfa. Yn Rhagfyr 1237, Ryazan oedd y ddinas gyntaf yn y Rws i gael ei gwarchae gan y Mongolwyr, dan arweiniad Batu Khan. Wedi i'r goresgynwyr godi'r gwarchae, anrheithio'r ddinas a'i llosgi'n ulw, gorfodwyd i'r dywysogaeth ildio cyfran o'i hanifeiliaid a phobl—yn gaethweision—i'r Mongolwyr. Yn ôl yr "Hanes o Ddinistr Ryazan" a gyflawnwyd gan Batu, ailadeiladwyd y ddinas yn sgil y goresgyniad, ond yn ôl archwiliadau'r cloddio archaeolegol diweddar, dim ond ychydig o adeiladau a ailgodwyd.[1] Symudodd y brifddinas i Pereiaslavl'-Riazanskii (bellach Ryazan), rhyw 30 milltir (48 km) i fyny Afon Oka, yn y 14g.[2]

Yn niwedd y 14g, ymgynghreiriodd tywysogion Ryazan â'r Llu Euraid yn erbyn Uchel Dywysogaeth Moscfa mewn ymgais i ehangu eu tiriogaeth. Ymladdodd lluoedd Ryazan ym Mrwydr Kulikovo (1380) ar ochr Mamai, cadlywydd y Llu Euraid, yn erbyn Moscfa a thywysogaethau eraill y Rws. Wedi buddugoliaeth Moscfa, sefydlwyd llywodraethwr yn Ryazan ym 1382, ac o'r diwedd cydnabu Oleg, Tywysog Ryazan, benarglwyddiaeth yr Uchel Dywysog Dmitrii Donskoi ym 1385. Byddai Ryazan yn ddibynnol ar Foscfa trwy gydol y 15g ac hyd at ei chyfeddiannu'n ffurfiol i diriogaeth yr uchel dywysogaeth ym 1521 yn ystod teyrnasiad Vasili III.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Lawrence N. Langer, Historical Dictionary of Medieval Russia (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2002), tt. 178–79.
  2. (Saesneg) Ryazan (medieval Russain principality). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Ionawr 2023.