Trowyntoedd yr Unol Daleithiau, Rhagfyr 2021

Achos anaml o drowyntoedd hwyr-dymor oedd trowyntoedd yr Unol Daleithiau, Rhagfyr 2021, a darodd rannau o daleithiau deheuol a gorllewin canol Unol Daleithiau America dros nos 10–11 Rhagfyr 2021. Achoswyd y tywydd hwn gan gafn o bwysau'r atmosffer yn ymadweithio ag amodau annhymhorol wrth iddi symud i'r dwyrain ar draws yr Unol Daleithiau. Gwrthdarodd y gafn â'r aer llaith yn Nyffryn Mississippi, gan gychwyn cyfres o drowyntoedd yn Arkansas a symudodd ymlaen i daleithiau Missouri, Illinois, Tennessee, a Kentucky.

Sbardunwyd y trowyntoedd gwaethaf gan supercell, storm gylchdroadol o fellt a tharanau, a barodd ar lwybr hir, gan gynhyrchu teulu o drowyntoedd cryfion, neu o bosib un trowynt hirhoedlog. Cysylltodd y trowynt cyntaf â'r ddaear yng ngogledd-ddwyrain Arkansas, ac aeth y gwyntoedd ymlaen i'r llain o dir a elwir "Sawdl Missouri", ac ardaloedd gorllewinol Tennessee a Kentucky. Chwipiodd y trowyntoedd ar eu ffordd drwy nifer o drefi, gan gynnwys Valley View, Lake City, a Leachville yn Arkansas, Hornersville, Rives, Gobler, Hayti, a Caruthersville ym Missouri, cyn groesi Afon Mississippi draw i Tennessee, ac o'r diwedd Kentucky.[1] Rhoddwyd yr enw "trowynt y Pedair Talaith" (Quad-State tornado) ar y teulu tornadig hwn am ei fod yn debyg i'r trowynt Tri-State enwog a darodd Missouri, Illinois, ac Indiana ym 1925, ac mae'n bosib i'r prif drowynt yn 2021 dorri'r hen record am y llwybr hiraf i un storm o'r fath.[2] Effeithiodd stormydd tornadig eraill, a achoswyd gan yr un amodau tywydd ond nad oedd yn rhan o'r prif deulu o drowyntoedd, ar ardaloedd yn nwyrain Missouri, de Illinois, gorllewin a chanolbarth Tennessee, a gorllewin a chanolbarth Kentucky yn ystod.

Cyfeiriadau