Gwleidydd Cymreig a gwraig y diweddar Peter Law yw Trish Law (ganed Patricia Bolter 17 Mawrth 1954 yn Nant-y-glo, Blaenau Gwent). Yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007, enillodd fel ymgeisydd annibynnol yn etholaeth Blaenau Gwent, hen sedd ei ŵr, a enillwyd ganddi mewn is-etholiad ar 29 Mehefin 2006. Ni safodd i gael ei hail-ethol yn 2011.