Mae Trafnidiaeth Cymru Trenau yn gwmni sy'n gweithredu trenau cyhoeddus Cymru, ac yn is-gwmni i Trafnidiaeth Cymru (TrC), sef cwmni sy’n perthyn i Lywodraeth Cymru.
Dechreuodd weithredu gwasanaethau dydd i ddydd Masnachfraint Cymru a’r Gororau ar 7 Chwefror 2021, fel gweithredwr gan gymryd lle KeolisAmey Cymru.[1][2]
Mae Trafnidiaeth Cymru Trenau yn rheoli 248 o orsafoedd "National Rail"[3][4] gan gynnwys pob un o’r 223 yng Nghymru[5] ac yn gweithredu’r holl wasanaethau prif reilffordd i deithwyr yn gyfan gwbl yng Nghymru, ac yn gwasanaethau o Gymru, Caer, Amwythig i Lerpwl, Manceinion, Maes Awyr Manceinion, Crewe, Birmingham, Bidston a Cheltenham.
Hanes
Ym mis Mai 2018, dyfarnwyd masnachfraint Cymru a'r Gororau gan Trafnidiaeth Cymru i KeolisAmey Cymru.[6] Wedi'i amserlennu i redeg am 15 mlynedd, dechreuodd ym mis Hydref 2018.[7][8]
Yn dilyn cwymp mewn refeniw, a gostyngiad sylweddol yn nifer y teithwyr o ganlyniad i bandemig COVID-19, roedd y fasnachfraint wreiddiol wedi dod yn anhyfyw yn ariannol. Ar 7 Chwefror 2021, cymerodd Trafnidiaeth Cymru Trenau le KeolisAmey Wales fel gweithredwr masnachfraint Cymru a’r Gororau. Bydd KeolisAmey a Thrafnidiaeth Cymru yn parhau â phartneriaeth ar welliannau pellach ar y rhwydwaith, gydag Amey Infrastructure Wales (AIW) yn parhau i chwarae rhan yn y gwaith o gyflawni rhai prosiectau allweddol megis Llwybrau Lleol y Cymoedd a Chaerdydd.[9][10][11][12]
Cerbydau presennol
Etifeddodd Trafnidiaeth Cymru gan KeolisAmey Wales fflyd o unedau lluosog diesel Dosbarth 143, 150, 153, 158, 170 a 175, unedau lluosog diesel-batri-trydan Dosbarth 230, unedau lluosog deufodd Dosbarth 769 a setiau Mark 4 a DVT gyda dyraniad o locomotifau Dosbarth 67.[13][14]
Fflyd y dyfodol
Mae holl fflyd dros dro KeolisAmey Trafnidiaeth Cymru a etifeddwyd gan Drafnidiaeth Cymru, Cymru, i gael ei disodli erbyn 2023 (ac eithrio'r locomotifau Dosbarth 67).[21]
Crynodeb fflyd y dyfodol
Fflyd gorffennol
Rhwng mis Medi 2021 a mis Tachwedd 2022, trosglwyddwyd pob un o’r dosbarthiadau dau gar Dosbarth 170 i East Midlands Railway [25]
Teulu
|
Dosbarth
|
Delwedd
|
Math
|
Cyflymder uchaf
|
Cerbydau
|
Rhif
|
Llwybrau a Weithredir
|
Tynnwyd yn ôl
|
Adeiladwyd
|
Nodiadau
|
mya
|
km/awr
|
|
Unedau Lluosog Diesel
|
|
Bombardier Turbostar
|
170/2
|
|
DMU
|
100
|
161
|
2
|
4
|
|
2021-2022
|
2002
|
Trosglwyddwyd i East Midlands Railway
|
|
Cyfeiriadau