Thomas Müller Müller yn chwarae i'r Almaen yn 2012 |
Gwybodaeth Bersonol |
---|
Enw llawn | Thomas Müller[1] |
---|
Dyddiad geni | (1989-09-13) 13 Medi 1989 (35 oed) |
---|
Man geni | Weilheim, Gorllewin Yr Almaen |
---|
Taldra | 1.86m[2] |
---|
Safle | Ymosodwr |
---|
Y Clwb |
---|
Clwb presennol | Bayern Munich |
---|
Rhif | 25 |
---|
Gyrfa Ieuenctid |
---|
1993–2000 | TSV Pähl |
---|
2000–2008 | Bayern Munich |
---|
Gyrfa Lawn* |
---|
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
---|
2008–2009 | Bayern Munich II | 35 | (16) |
---|
2008– | Bayern Munich | 165 | (58) |
---|
Tîm Cenedlaethol‡ |
---|
2004–2005 | Yr Almaen dan 16 | 6 | (0) |
---|
2007 | Yr Almaen dan 19 | 3 | (0) |
---|
2008 | Yr Almaen dan 20 | 1 | (1) |
---|
2009 | Yr Almaen dan 21 | 6 | (1) |
---|
2010– | Yr Almaen | 50 | (20) |
---|
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 17:17, 10 Mai 2014 (UTC).
† Ymddangosiadau (Goliau).
‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 18:00, 16 Mehefin 2014 (UTC)[3] |
Pêl-droediwr o'r Almaen yw Thomas Müller (ganwyd 13 Medi 1989) sy'n chwarae dros glwb Bayern Munich yn y Bundesliga yn Yr Almaen ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Yr Almaen.
Ymunodd â Bayern yn 10 mlwydd oed ac ymddangosodd yn gyntaf i'r tîm cyntaf ar 15 Awst 2008 yn 18 mlwydd oed fel eilydd yn erbyn Hamburger SV. Sefydlodd ei hun yn rhan allweddol o'r garfan yn ystod tymor 2009/10 gan ymddangos 52 gwaith a sgorio 19 gôl ym mhob cystadleuaeth.[4].
Chwaraeodd yn gyntaf dros Almaen yn erbyn Yr Ariannin ym mis Mawrth 2008[5] cyn cael ei ddewis yn aelod o garfan Yr Almaen ar gyfer Cwpan y Byd 2010 yn Ne Affrica.
Llwyddodd i ennill yr Esgid Aur fel prif sgoriwr Cwpan y Byd 2010 ar ôl sgorio pum gôl a chreu tair a chafodd ei ddewis fel Chwaraewr Ifanc y Twrnament.
Cyfeiriadau