Thomas Jones |
---|
|
Ganwyd | 1 Mai 1648 Corwen |
---|
Bu farw | 8 Awst 1713 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | llyfrwerthwr, argraffydd, cyhoeddwr |
---|
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Jones.
Almanaciwr, gwerthwr llyfrau, argraffydd, a chyhoeddwr o Gymro oedd Thomas Jones (1 Mai 1648–6 Awst 1713). Fe'i ganwyd ger Corwen yn 1648.
Yn 1769 derbyniodd Letters Patent gan Gwmni y Stationers yn Llundain yn rhoddi iddo yr hawl i ysgrifennu, argraffu, a chyhoeddi almanac yn y Gymraeg. Cyhoeddodd Jones wedyn gyfres o 32 o almanaciau Cymraeg, a ynddangosodd yn flynyddol o 1680 hyd 1712.
Yn 1681 roedd ganddo siop yn Paul's Alley, Dinas Llundain. Ymhlith y llyfrau a gyhoeddodd yn ystod ei gyfnod yn Llundain y mae
- An Astrological Speculation Of the late Prodigy or ... Comet, or Blazing Star (1681)
- Llyfr Plygain (1683)
- Athrawiaeth i Ddysgu Ysgrifennu amriw fath ar ddwylo (1683)
- Y Gwir er Gwaethed yw (1684), hanes y Cynllwyn Pabaidd
- Llyfr Gweddi Gyffredin (1687)
- Llyfr y Psalmau Edmwnd Prys (1687)
- Y namynun-deugain Erthyglau Crefydd Eglwys Loegr (1688)
- Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb (1688), sef geiriadur
Yn ogystal ag argraffu a chyhoeddi llyfrau yn Llundain roedd ganddo fusnes helaeth fel llyfrwerthwr, gydag asiantau yng Nghymru a'r Gororau.
Ar ryw adeg, ymsefydlodd yn Amwythig ac yno cyhoeddodd
- Carolau a Dyriau Duwiol (1696)
- Artemidorus: Gwir Ddeongliad Breuddwydion (1698)
- Attebion i'r Hôll Wâg Escusion (1698)
- Taith y Pererin (1699), cyfieithiad o The Pilgrim's Progress John Bunyan
- Atcofiad o'r Scrythyr (1704)
Bu Thomas Jones farw yn Amwythig 6 Awst 1713.
Ffynonhellau