Mae Thebes neu Thebai yn Safle Treftadaeth y Byd yn yr Aifft. Thebai (Θῆβαι) Thēbai, (Arabeg: طيبة) yw'r enw Groeg am y ddinas hon, un o'r rhai pwysicaf yn yr Hen Aifft, a saif ar ochr ddwyreiniol Afon Nîl. Sefydlwyd hi tua 3200 CC. Daeth yn brifddinas yr Hen Aifft yn y 11ed frenhinlin ac wedyn yn y 18fed frenhinlin pan adeiladwyd llynges a phorthladd gerllaw gan y Frenhines Hatshepsut yn Elim. Roedd Thebai yn enwog drwy'r Henfyd a chyfeiria Homer ati yn yr Iliad (Llyfr IX).
Saif Luxor ar yr un safle heddiw.
O'r enw Copteg Ta-Opet ("teml") daeth yr enw Thebai i'r Roeg ond niwt-imn ("Dinas Amun") oedd hi yn yr Eiffteg a dyma'r enw Beiblaidd yn Hebraeg, sef נא אמון nōˀ ˀāmôn (Nahum 3:8), neu נא ("No") (Eseciel 30:14). Troswyd hyn yn llythrennol i'r Roeg fel Διόσπολις Diospolis ("Dinas Zeus") neu weithiau Διόσπολις μεγάλη Diospolis megale ("Dinas Fawr Zeus") rhag drysu rhwng y gwahanol Diospolisau eraill. Y fersiwn Lladin a arferid gan y Rhufeiniaid oedd Diospolis Magna.
Erbyn heddiw mae dwy dref ar safle Thebai sef Luxor (Arabeg: الأقصر, Al-Uqṣur, "Y Palasau") ac al-Karnak (الكرنك).
Ffynonellau
- Henri Gauthier, Dictionnaire des noms géographiques contenus dans les textes hieroglyphiques (Cairo, 1925–31; R/Osnabrück: Otto Zeller Verlag, 1975), cyf.3, tt.75–6.
- Donald Bruce Redford, "Thebes", yn The Anchor Bible Dictionary, gol. David Noel Freedman (Efrog Newydd: Doubleday, 1992), cyf.6, tt.442–3
- Nigel C. Strudwick a Helen Strudwick, Thebes in Egypt: A Guide to the Tombs and Temples of Ancient Luxor (Llundain: British Museum Press, 1999)
- Daniel C. Polz, "Thebes". Yn The Oxford Encyclopedia of ancient Egypt, gol. Donald Bruce Redford (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001), cyf.3, tt. 384–8
Dolenni allanol