Mae'r Theatr Newydd (Saesneg: New Theatre; yr enw Saesneg a ddefnyddir gan amlaf) yn un o brif theatrau Caerdydd. Dathlwyd ei ganmlwyddiant yn 2006. Fe'i lleolir yng nghanol y ddinas ar Blas y Parc, ger Parc Cathays.
Gall y theatr ddal 1,144 o bobl. Cynhelir nifer o gynhyrchiadau sy'n teithio ynddi, gan gynnwys dramâu a dramâu cerddorol, dramâu plant a phantomeim Nadolig.