Albwm cysyniad gan fand Prydeinig roc blaengarPink Floyd yw The Dark Side of the Moon (Dark Side of the Moon oedd y teitl ar rifyn CD 1993). Rhyddhawyd ar 17 Mawrth1973 yn yr Unol Daleithiau ac ar 24 Mawrth 1973 yn y Deyrnas Unedig.[1]
Mae The Dark Side of the Moon yn adeiladu ar arbrofion cerddorol cynt Pink Floyd, yn arbennig yn eu albwm Meddle. Mae'r themâu yn cynnwys oed, gwrthdaro a gwallgofrwydd; ysbrydolwyd gwallgofrwydd efallai gan dirywiad meddylol cyn-arwinydd y band, Syd Barrett. Mae'r albwm yn nodweddiadol am ei ddefnydd o musique concrète a geiriau cysyniadol ac athronyddol, fel sydd i'w canfod yn rhanfwyaf o waith Pink Floyd.
Mae'r rhyddhad LP gwreiddiol yn dechrau gyda'r gân "Money" ar ochr-B.
Nodiadau:
1 Mae rhai fersiynau a'u rhyddhadwyd yn cyfuno "Speak to Me" a "Breathe" 2 Cafodd Clare Torry gredyd ar gyfer addasu byrfyfyr llais "The Great Gig in the Sky" am y tro cyntaf yn rhyddhad DVD P*U*L*S*E, ar ôl brwydr cyfreithiol a enillodd yn erbyn Pink Floyd.
David Sinclair – nodiadau yn llyfr llawes yr ail-ryddhad o'r CD
Drew Vogel – celf a ffotograffiaeth yr ail-ryddhad o'r CD
Senglau
Mewn rhai gwledydd, y Deyrnas Unedig yn nodweddiadol, ni ryddhaodd Pink Floyd unrhyw senglau rhwn "Point Me at the Sky" 1968 a "Another Brick in the Wall (Part Two)" 1979. Ond fe ryddhawyd y dilynol yn yr Unol Daleithiau:
"Money"/"Any Colour You Like" – Harvest/Capitol 3609; Rhyddhawyd Mehefin 1973
"Time"/"Us and Them" – Harvest/Capitol 45373; Rhyddhawyd 4 Chwefror1974