Yn y chwedl mae Teyrnon yn arglwydd ar Went Is Coed, yn ne-ddwyrain Cymru. Daw ei enw o'r gwreiddyn teyrn (Brythonegtigernonos "Y Teyrn Mawr", efallai fel cymar i'r dduwies Rigantona "Y Frenhines Fawr", sef Rhiannon yn Gymraeg Canol). Ceir Nant Teyrnon tua 2 filltir o Gaerleon lle codwyd Abaty Llantarnam. Ystyr yr epithet Twrf [F]liant yw "twrw mawr", yn ôl pob tebyg.[1]
Pob Calan Mai mae rhwy anghenfil ryfeddol yn dod i lys Teyrnon a'i wraig a dwyn ebolcaseg arbennig Teyrnon. Mae Teyrnon yn penderfynu datrys y dirgelwch. Ar Nos Calan Mai mae'n aros ar ei draed yn y stablau a gweld braich a chrafanc ofnadwy yn ymestyn trwy'r ffenestr am yr ebol. Tynna Teyrnon ei gleddyf a thorri'r grafanc. Ceir twrw mawr tu allan a rhed Teyrnon i weld beth a'i achosodd. Yno mae'n darganfod baban mewn gwisg o sidan yn gorwedd ar y llawr. Aiff ag ef i'r neuadd a'i ddangos i'w wraig ac mae hi'n rhoi iddo'r enw Gwri Gwallt Euryn. Mae Gwri yn tyfu i fyny i fod yn fachgen ifanc rhyfeddol o gryf a galluog. Rhoddir iddo'r ebol, sy'n farch erbyn hynny, a achubwyd rhag y grafanc.
Yna mae Teyrnon a'i wraig yn clywed am golled Rhiannon, gwraig Pwyll, sydd wedi cael ei chyhuddo o ladd a bwyta ei fab ei hun ac sy'n gwneud penyd am hynny. Penderfynant fynd â'r bachgen i ddangos i Bwyll a Rhiannon gan feddwl efallai mai ef yw'r baban a gollwyd. Teithiant i lys Pwyll yn Arberth yn Nyfed. Pan wêl Pwyll a Rhiannon y bachgen maent yn ei adnabod ar unwaith. Mae Rhiannon mor falch o'i weld - ac felly profi ei bod yn ddieuog yn ogystal â chael ei fab yn ôl - fel ei bod yn ebychu, "Y rhof i a Duw, oedd esgor fy mhryder im, pei gwir hynny" ("Yn wir, diflannodd fy mhryder i os gwir hynny").[2] Ac felly caiff y bachgen ei enw newydd, Pryderi.
Cyfeiriadau
↑Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; arg. newydd 1989), tt. 146-147.