Tegan meddal ar ffurf arth yw tedi bêr. Cafodd ei ddatblygu ar yr un pryd, mae'n debyg, gan wneuthurwyr teganau Morris Michtom yn yr Unol Daleithiau a Richard Steiff yn yr Almaen ym mlynyddoedd cynnar yr 20g, a'i enwi ar ôl yr Arlywydd Theodore "Teddy" Roosevelt. Daeth y tedi yn degan eiconig, un sydd wedi bod yn destun neu ymddangos mewn nifer fawr o straeon, caneuon a ffimiau ar hyd y blynyddoedd.[1] Mae'r tedi bêrs enwocaf yng Nghymru yn cynnwys Superted a Huwcyn o'r rhaglen deledu Gymraeg i blant 'Ffalabalam'.
Ers creu'r tedi bêrs cyntaf ar ffurf eirth bychain go iawn, mae tedis wedi'u creu mewn amrywiaeth o ffurfiau, steiliau, lliwiau a deunyddiau.
Mae tedi bêrs yn cael eu casglu, a'r rhai hynaf a phrin yn ymddangos mewn arwerthiannau cyhoeddus.[2] Mae tedi bêrs ymhlith y rhoddion mwyaf poblogaidd i blant ac yn cael eu rhoi i oedolion fel arwydd o gariad, i'w llongyfarch, neu i fynegi cydymdeimlad.
Tarddiad yr enw
Mae'r enw tedi bêr, sy'n dod o'r Saesneg 'Teddy Bear', yn tarddu o enw cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Theodore Roosevelt, a oedd yn aml yn cael ei gyfeirio ato fel "Teddy" (er bod gas ganddo gael ei alw'n hynny).[3] Cafodd yr enw ei greu yn dilyn digwyddiad ar wibdaith y bu Roosevelt arni i hela eirth yn Mississippi yn Nhachwedd 1902. Roedd sawl heliwr yn cystadlu, a'r rhan fwyaf eisoes wedi lladd anifail. Roedd grwp o gynorthwywyr Roosevelt, dan arweiniad Holt Collier,[4] wedi cornelu, curo a chlymu arth i helygen ar ôl ei dilyn gyda'r cŵn nes ei bod wedi ymlâdd. Galwyd Roosevelt i'r man ac awgrymwyd ei fod yn saethu'r arth. Gwrthododd ei saethu ei hun, am ei fod yn ystyried hyn yn annheg, ond gormynnodd i rhywun arall ei saethu i roi pen ar ei phoenau.[5][6] Daeth y digwyddiad hwn yn destun cartŵn gwleidyddol gan Clifford Berryman yn The Washington Post ar 15 Tachwedd 1902. Tra bod y cartŵn gwreiddiol yn cynnwys arth maint llawn wedi'i chlymu, roedd yr arth yn llai ac yn ddelach mewn rhifynnau diweddarach a chartwnau eraill gan Berryman.[7][8]
Gwelodd Morris Michtom y darlun o Roosevelt a chael ei ysbrydoli ei greu'r tedi bêr. Creodd Michtom arth fach feddal a'i rhoi yn ffenestr y siop gydag arwydd "Teddy's bear", a hynny ar ôl iddo anfon arth at Roosevelt a chael caniatâd i ddefnyddio ei enw. Bu'r teganau yn llwyddiant mawr ac aeth Michtom yn ei flaen i sefydlu'r Ideal Novelty and Toy Co.[6]
Ar yr un adeg yn yr Almaen, cynhyrchodd cwmni Steiff, heb fod yn ymwybodol o arth Michtom, arth eu hunain yn seiliedig ar ddyluniadau Richard Steiff. Cyflwynodd Steiff y tegan y Ffair Deganau Leipzig ym Mawrth 1903, a chafodd ei weld yno gan Hermann Berg, prynwr dros gwmni George Borgfeldt & Company yn Efrog Newydd (a brawd y cyfansoddwr Alban Berg).[9] Archebodd 3,000 i gael eu hanfon i'r Unol Daleithiau.[10] Er bod cofnodion Steiff yn dangos bod yr eirth wedi'u cynhyrchu, nid oes cofnod ohonynt yn cyrraedd yr Unol Daleithiau nac nid oes enghraifft o'r math "55 PB" wedi'i weld erioed, gan arwain i'r stori bod y llong a oedd yn cludo'r eirth wedi'i dryllio ar y môr. Fodd bynnag, mae'r stori honno wedi'i herio – mae'r awdur Günther Pfeiffer yn nodi mai yn 1953 y cafodd ei chofnodi gyntaf a'i fod yn fwy tebygol nad oedd y 55 PB yn ddigon parhaol i oroesi hyd y dydd heddiw.[11] Er bod Steiff a Michtom yn creu eirth tua'r un adeg, ni fyddai'r un ohonynt wedi bod yn ymwybodol o weithgareddau'r llall oherwydd gwendid y dulliau cyfathrebu dros gefnfor yr Iwerydd.
↑"The story of The Teddy Bear". Theodoreroosevelt.org. 1 Chwefror 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-17. Cyrchwyd 26 Medi 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)