Math o darten agored yn cynnwys crystyn toes wedi'i lenwi a wyau, llaeth neu hufen, a chaws, cig, bwyd mor neu lysiau, yw tarten sawrus (hefyd, yn Ffrangeg a Saesneg: quiche). Gall gael ei weini yn boeth neu oer. Mae'n ddull Ffrengig o goginio, er ei fod hefyd yn boblogaidd mewn gwledydd eraill.
Defnyddiwyd y gair "quiche" gyntaf yn Ffrangeg yn 1805, ac yn nhafodiaith Lorrain yn 1605. Gall fod yn perthyn i'r gair Almaeneg Kuchen, sy'n golygu "cacen" neu "tarten".[1][2]
Cyfeiriadau
↑"quiche", Oxford English Dictionary, 2015. Adalwyd 4 Chwefror 2016.
↑"Quiche", Centre Nationale de Ressources Textuelles et Lexicales. Adalwyd 12 Chwefror 2015. Mae'r ffynhonnell hon hefyd yn dyddio'r cyfeiriad cyntaf at 1805, yn J.-J. Lionnois, Hist. des villes vieille et neuve de Nancy..., Nancy, cyf. 1, t. 80