Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Andorra (Catalaneg: Selecció de futbol d'Andorra) yn cynrychioli Andorra yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Andorra, corff llywodraethol y gamp yn Andorra. Dim ond Liechtenstein, San Marino, Gibraltar ac Ynysoedd Faroe sydd â llai o boblogaeth nag Andorra o fewn conffederasiwn UEFA.
Mae Andorra wedi cystadlu ym mhob cyfres o gemau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop a Chwpan y Byd ers Euro 2000 ond heb llawer o lwyddiant. Dim ond tair gêm mae Andorra erioed wedi eu hennill a dim ond un buddugoliaeth gystadleuol mae'r tîm wedi ei gofrestru a hynny yn fyddugoliaeth 1-0 dros Macedonia yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2006[1].
Cyfeiriadau