Plaid wleidyddol a mudiad chwyldroadol parafilwrol Iranaidd mewn alltudiaeth sy'n credu mewn sosialaeth Islamaidd yw'r Sāzmān-e mojāhedin-e khalq-e irān (Perseg سازمان مجاهدين خلق ايران "Mujahedin y Bobl Iran"), a adwaenir hefyd fel y PMOI (People's Mojahedin of Iran) neu'r MEK neu MKO. Ei nod yw dymchwel llywodraeth bresennol Iran. Ei arweinydd yw Maryam Rajavi, a
Seddigheh Hosseini yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol. Lleolir ei phencadlys yn Ashraf, de Irac. Cyfeirir at y mudiad yn aml fel "(Mojahedin-e) Khalq".
Sefydlwyd y PMOI yn 1965 i ymladd yn erbyn llywodraeth y Shah Mohammad Reza Pahlavi, cyfalafiaeth, ac imperialaeth Orllewinol.[1] Rhoddodd y mudiad orau i ymgyrchu arfog yn swyddogol yn 2001[2] ac erbyn heddiw y PMOI yw'r prif fudiad yng Nghyngor Cenedlaethol Gwrthsafiad Iran (National Council of Resistance of Iran: NCRI), mudiad ymbarel neu senedd-mewn-alltudiaeth sy'n honni gweithio am sefydlu llywodraeth ddemocrataidd, seciwlar yn Iran. Mae gan/bu gan y PMOI asgell arfog o'r enw Byddin Rhyddhau Iran (National Liberation Army of Iran NLA). Cyfeiria llywodraeth Iran at y PMOI a'i cyngreiriaid fel Monafeqin (yn llythrennol, "Rhagrithwyr") yn hytrach na "Mojahedin", gan faentumio nad ydynt yn blaid Islamaidd mewn gwirionedd.[3]
Ond yn ôl yr Unol Daleithiau, Canada, Irac, y DU, ac Iran, a'r Undeb Ewropeaidd, mae'r NCRI yn ffrynt yn unig i weithgareddau terfysgol y PMOI[4] ac felly mae'r PMOI yn fudiad terfysgol[5] Rhoddodd y PMOI a'r NCRI wybodaeth am raglen niwclear llywodraeth Iran yn 2002 a 2008 sydd wedi poeni rhai o wledydd y Gorllewin, yn enwedig yr Unol Daleithiau.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol