System o rifolion degol positif yw system rhifo Arabaidd neu system rif Hindŵ-Arabaidd;[1] hi yw'r system fwyaf cyffredin drwy'r byd, ar gyfer cynrychioli rhifau drwy symbolau e.e "7".[2] Defnyddid y gair Hindŵ gan yr Arabiaid (neu'r Persiaid) yr adeg honno am bobl o India. Cyrhaeddodd y system hon drwch poblogaeth gwledydd Prydain yn y 15g, ac ymhlith y rhai a geisiodd ei hamlygu roedd y Cymro o Sir Benfro Robert Recorde, yn ei lyfr The ground of artes, 1543. Cyn hynny, defnyddid y dull Rhufeinig.
Fe'i dyfeisiwyd gan fathemategwyrIndiaidd rhwng 1g a'r 4g a mabwysiadwyd y system gan fathemategwyr Arabaidd erbyn y 9g. Ystyrir llyfrau Muḥammad ibn Mūsā al-Khwārizmī yn aruthrol bwysig (Cyfrifo gyda Rhifau Hindŵ, c.825) ac Al-Kindi (Ar y Defnydd o Rifau Hindŵaidd, c.830). Ymledodd y system, yn ddiweddarach, i Ewrop ganoloesol.[3]
Mae'r system wedi'i seilio ar ddeg glyff (neu symbol) gwahanol - naw yn wreiddiol. Mae'r glyffs a ddefnyddir i gynrychioli'r system, mewn egwyddor, yn annibynnol ar y system ei hun. Mae'r glyffiau a ddefnyddir heddiw yn ddisgynyddion rhifolion Brahmi ac maent wedi rhannu'n amrywiol amrywiadau teipograffyddol ers yr Oesoedd Canol; heddiw, ceir 3 prif grwp. Caiff ei ystyried yn system o nodiant sy'n dibynnu ar leoliad y glyff.
Lleoliad y nodiant
Drwy ddefnyddio'r pwynt degol, llinell lorweddol (i nodi negydd) a marc i nodi fod y rhif yn parhau 'ad infinitum (yr 'arlinell', neu'r vinculum), gellir mynegi unrhyw rif gyda dim ond 13 symbol. Felly'r 13 yw: y deg digid, y pwynt degol, yr arlinell a dash i nodi rhi negatif.
↑William Darrach Halsey, Emanuel Friedman (1983). Collier's Encyclopedia, with bibliography and index. When the Arabian empire was expanding and contact was made with India, the Hindu numeral system and the early algorithms were adopted by the Arabs