System atgenhedlu ddynol

System atgenhedlu ddynol
Mathsystem atgenhedlu, system o organnau, set o israniadau y system organau, organ ddynol, strwythur anatomegol ddynol Edit this on Wikidata
Rhan oBioleg ddynol Edit this on Wikidata
Yn cynnwyssystem atgenhedlu benywaidd, system atgenhedlu gwrywaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r system atgenhedlu ddynol fel arfer yn cynnwys ffrwythloni mewnol trwy gyfathrach rywiol. Ar wahan i dreisio rhywiol, mae hyn yn digwydd gan oedolion neu lasoed. Yn ystod y broses hon o ddod at ei gilydd mae'r gwryw (bachgen neu ddyn) yn mewnosod ei bidyn yng ngwain (neu fagina) y fenyw (merch neu ddynes) ac yn alldaflu ychydig o semen sy'n cynnwys sberm i fewn i'w gwain. Yn ychwanegol at greu epil, mae rheswm arall dros y weithred o atgynhyrchu, sef er mwyn y pleser.

Mae'r system atgenhedlu ddynol yn cynnwys y system atgenhedlu gwrywaidd sy'n cynhyrchu a dyddodi sberm; a'r system atgenhedlu fenywaidd sy'n cynhyrchu wyau, ac yn amddiffyn a maethu'r ffetws hyd at yr enedigaeth. Mae gan fodau dynol lefel uchel o wahaniaethu rhywiol. Yn ogystal â gwahaniaethau rhwng bron pob organ atgenhedlu, mae yna lawer o wahaniaethau hefyd rhwng y gwahanol nodweddion rhyw eilaidd nodweddiadol.[1] Wedi i'r gwryw osod ei sberm yn y wain (neu'r 'fagina' yn feddygol), mae'r sberm yn teithio drwy'r gwain a'r serfics ac i mewn i'r groth neu diwbiau ffalopaidd i ffrwythloni'r ofwm (yr wy). Ar ôl ffrwythloni llwyddiannus, mae beichiogrwydd y ffetws wedyn yn digwydd o fewn croth y fenyw am tua naw mis. Mae beichiogrwydd yn dod i ben gyda genedigaeth, pan fo'r babi yn cael ei esgor. Yn ystod y weithred o esgor mae cyhyrau'r groth yn cyfangu, ac mae ceg y groth yn ymledu, a'r baban yn pasio allan o'r fagina. Mae babanod a phlant dynol bron yn ddiymadferth ac angen lefelau uchel o ofal rhieni am flynyddoedd lawer. Un math pwysig o ofal rhieni yw'r defnydd o'r chwarennau llaeth ym mronnau'r fenyw i sy'n rhoi maetholion gwerthfawr i'r babi.

Felly, mae gan y system atgenhedlu benywaidd ddwy swyddogaeth: y cyntaf yw cynhyrchu celloedd wyau bob 28 diwrnod, a'r ail yw amddiffyn a maethu'r epil hyd at yr enedigaeth. Un swyddogaeth sydd i'r system atgenhedlu gwrywaidd, sef cynhyrchu ac alldaflu sberm. Mae gan fodau dynol lefel uchel o wahaniaethau rhyw. Yn ogystal â gwahaniaethau rhwng bron pob organ atgenhedlu, ceir llawer o wahaniaethau hefyd yn y nodweddion rhywiol eilaidd.

Gwryw
Organau cenhedlu gwrywaidd
  1. pledren
  2. pwbis
  3. pidyn, cala
  4. corpws cafernoswm
  5. glans
  6. blaengroen
  7. agoriad yr wrethra
  8. coluddyn mawr
  9. rectwm
  10. fesigl semenol
  11. dwythell alldafliadol
  12. chwarren brostad
  13. chwarren Cowper
  14. anws
  15. fas defferens
  16. epididymis
  17. caill
  18. sgrotwm

Mae'r system atgenhedlu gwrywaidd yn gyfres o organau sydd wedi'u lleoli y tu allan i brif gorff y bachgen neu ddyn: o amgylch y pelfis sy'n cyfrannu at y broses o atgenhedlu. Prif swyddogaeth uniongyrchol y system atgenhedlu gwrywaidd yw darparu'r sberm gwrywaidd ar gyfer ffrwythloni ofwm y fenyw.

Gellir grwpio prif organau atgenhedlu'r gwryw yn dri chategori. Y categori cyntaf yw cynhyrchu a storio sberm. Fe'u cynhyrchir yn y ceilliau, o fewn sach bychan y ceillgwd sy'n rheoli tymheredd; teithia'r sberm anaeddfed i'r argaill (yr epididymis) lle mae'nt yn datblygu ac yn cael eu storio. Yr ail gategori yw'r chwarennau alldaflu sy'n cynhyrchu hylif ac sy'n cynnwys y fesiglau semenol, y prostad, a'r vas deferens. Y categori olaf yw'r rhai a ddefnyddir ar gyfer cyfathrach rywiol, a gosod y sbermatosoa (y sberm): y pidyn, yr wrethra, vas deferens, a chwarren Cowper (bwlbwrethral).

Ymhlith y prif nodweddion rhyw eilaidd mae: datblygu corff o faint mwy, mwy cyhyrog, llais dyfnach, blew ar yr wyneb a chorff, ysgwyddau llydan, a datblygiad afal Adda. Yr hormon rhywiol pwysig i wrywod yw androgen a testosteron.

Mae'r ceilliau'n rhyddhau hormon sy'n rheoli datblygiad sberm, sy'n gyfrifol hefyd am ddatblygiad nodweddion corfforol dynion fel blew yr wyneb a llais dwfn.[2]

Benyw
Organau cenhedlu benywaidd
  1. tiwbiau ffalopaidd
  2. pledren
  3. pwbis
  4. man G
  5. clitoris
  6. wrethra
  7. gwain
  8. ofari, neu wygell
  9. coluddyn mawr
  10. croth
  11. ffornics
  12. ceg y groth
  13. rectwm
  14. anws

Mae'r system atgenhedlu fenywaidd, ddynol yn gyfres o organau sydd wedi'u lleoli'n bennaf y tu mewn i'r corff ac o amgylch rhanbarth pelfig y fenyw sy'n cyfrannu at y broses atgenhedlu. Mae'r rhain yn cynnwys tair prif ran: y fwlfa, sy'n arwain at y fagina, agoriad y fagina i'r groth; y groth, sy'n dal y ffetws sy'n datblygu; a'r ofarïau, sy'n cynhyrchu ofa'r fenyw. Mae'r bronnau'n cymryd rhan yn ystod cyfnod magu plant, yn dilyn yr enedigaeth, ac felly, fel arfer, nid ydynt yn cael eu hystyried yn rhan o'r system atgenhedlu fenywaidd.

Mae'r fagina yn cwrdd â'r tu allan yn y fwlfa, sydd hefyd yn cynnwys y labia, y clitoris a'r wrethra; yn ystod cyfathrach mae'r ardal hon yn cael ei iro gan miwcws wedi'i secretu gan chwarennau'r Bartholin ac yn medru rhoi teimlad pleserus i'r fenyw. Mae'r fagina ynghlwm wrth y groth drwy'r serfics (ceg y groth), tra bod y groth ei hun yn sownd wrth yr ofarïau drwy'r tiwbiau ffalopaidd. Mae pob ofari yn cynnwys cannoedd o ofa (unigol: ofwm).

Tua bob 28 diwrnod, mae'r chwarren bitwidol yn rhyddhau hormon sy'n ysgogi rhywfaint o'r ofa i ddatblygu a thyfu. Caiff un ofwm ei ryddhau ac mae'n mynd trwy'r tiwb ffalopaidd i'r groth. Mae hormonau a gynhyrchir gan yr ofarïau yn paratoi'r groth i dderbyn yr ofwm. Bydd yr ofwm yn symud trwy ei thiwbiau ffalopaidd ac yn aros am y sberm i'w ffrwythloni. Pan na fydd hyn yn digwydd hy pan na fydd sberm yna mae leinin y groth, a elwir yn endometrium, a'r ofa sydd heb ei ffrwythloni yn cael eu bwrw ymaith, bob cylch 28-diwrnod, trwy'r broses o fislif. Os caiff yr ofwm ei ffrwythloni gan sberm, bydd yn glynu wrth yr endometriwm a bydd datblygiad embryonig (beichiogrwydd) yn dechrau.[2]

Cyfeiriadau

  1. "Sexual Reproduction in Humans". 2018-02-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-17. Cyrchwyd 2024-01-30. 2006. John W. Kimball. Kimball's Biology Pages (Saesneg)
  2. 2.0 2.1 Rey, Rodolfo; Josso, Nathalie; Racine, Chrystèle (2000). Feingold, Kenneth R.; Anawalt, Bradley; Blackman, Marc R.; Boyce, Alison (gol.). "Sexual Differentiation". Endotext. South Dartmouth (MA): MDText.com, Inc. PMID 25905232. Cyrchwyd 2023-12-19.