Ffilm ddogfen o 2010 yw Swansea Love Story. Lleolwyd y ffilm yn Abertawe a defnyddiwyd strydoedd cefn y ddinas yn bennaf yn gefnlen i'r ffilm. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Andy Capper a Leo Leigh a chafodd ei noson agoriadol ynng nghlwb nos Sin City ar y 13 Chwefror 2010.[1] Cynhyrchwyd y ffilm gan VBS.TV, adain ddarlledu Vice Magazine a chafodd ei ffilmio dros gyfnod o chwe mis.[2]
Mae'r ffilm yn dilyn hanesion saith o bobl ifanc go iawn sy'n gaeth i heroin. Ceir golygfeydd cignoeth o ddefnydd o gyffuriau a realiti bywyd yn gaeth i gyffuriau. Edrycha'r ffilm ar effaith diweithdra, teuluoedd wedi'u chwalu a chariad ar fywydau pobl.
Dolenni allanol
Cyfeiriadau