Stryd fasnachol yng nghanol dinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Stryt Siarl (“Charles Street”).
Lleoliad
Mae Stryt Siarl yn rhedeg o'r gyffordd gyda'r Stryt Fawr, Stryt Caer a Stryt Yorke, yn gyfagos i'r gwesty Wynnstay Arms, i'r gyffordd gyda Stryt y Farchnad a Chilgant San Siôr (“St George's Crescent”), ar gyrion canol y ddinas.
Hanes
Ar ddiwedd Stryt Siarl safodd y Farchnad Anifeiliaid (“Beast Market”), a oedd yn estyn hyd at yr ardal lle mae Tesco a'i maes parcio yn sefyll heddiw.
Nid yw tarddiad enw Stryt Siarl yn hysbys ond roedd yn cael ei hadnabod fel Stryt y Farchnad Anifeiliaid (“Beast Market Street”) tan ddiwedd y 18fed ganrif. Heddiw, mae'r Beast Market yn cael ei adnabod fel Cilgant San Siôr. [1]
Yn yr 17eg a’r 18fed ganrif, roedd y stryd yn arwain o'r marchnadoedd cynnyrch ar y Stryt Fawr, Stryt yr Abad a Stryt yr Hôb i'r farchnad anifeiliad, ar gyrion y dref. [2]
Disgrifiad
Stryd i gerddwyr yw Stryt Siarl. Mae hi'n cael ei hystyried fel un o’r strydoedd manwerthu mwyaf deniadol yn y dref, llawn o fusnesau bach preifat, gan gynnwys siopau a thafarnau. [2]
Mae'r gyffordd gyda'r Stryt Fawr, Stryt Caer a Stryt Yorke yn cael ei dominyddu gan adeiladau eiconig ar gyfer y ddinas fel y gwesty Wynnstay Arms a'r hen dafarndy'r Feathers.
Mae'r stryd yn wedi cadw nifer o adeiladau hanesyddol, gan gynnwys adeiladau rhestredig Gradd II. Mae'r rhifau 20 i 23 yn ffurfio rhes o siopau ar raddfa fechan gafodd ei adeiladu yn y 19eg ganrif gyda llety lan llofft, yn ôl pob tebyg cafodd ei ailfodelu o adeilad ffrâm bren cynharach. [3]
Mae'r hen dafarndy, "the Hat Inn", adeilad sy'n dyddio i'r 17eg ganrif, yn dal i oroesi fel rhan o optegydd. Drws nesa, mae tafarndy hanesyddol arall, yr hen Elephant & Castle, yn dal i sefyll ac yn cael ei ddefnyddio o hyd fel tafarn. [4]
Cyfeiriadau
Oriel
-
Rhifau 20-23, Stryt Siarl - siopau wedi'i ailfodelu yn y 19eg ganrif o adeiladau cynharach
-
Stryt Siarl - golygfa tuag at y gyffordd gyda'r Stryt Fawr, Stryt Caer a Stryt Yorke