Stryd fasnachol yng nghanol ddinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Stryt Henblas (“Henblas Street”).
Lleoliad
Mae Stryt Henblas yn cysylltu Stryt y Syfwr (“Queen Street”) â Stryt y Banc ("Bank Street") yng nghanol Wrecsam. Mae gan y stryd ddwy ran – un o Stryt y Syfwr tuag at gornel y Farchnad Gyffredinol ac arall sy'n parhau heibio'r Farchnad Gyffredinol hyd at Stryt y Banc, o flaen mynedfa gefn Marchnad y Cigyddion.
Hanes
Mae Stryt Henblas yn eistedd yn hen ganol masnachol Wrecsam. Ymsefydlodd masnachwyr o ardaloedd gwahanol o Brydain yno, yn masnachu yn awyr agored o leoedd a ddaeth i gael eu hadnabod yn ddiweddarach fel Sgwâr Manceinion (“Manchester Square”) a Sgwâr Birmingham “Birmingham Square”). [1]
Yn y 19eg ganrif, codwyd adeiladau parhaol ar gyfer y masnachwyr. Yn 1879, ar safle Sgwâr Manceinion adeiladwyd y Farchnad Gyffredinol (“General Market”), sy'n dominyddu'r stryd o hyd. [2]
Yn 1873, codwyd Neuadd yr Undeb (“Union Hall”) i amnewid Sgwâr Birmingham (a ddaeth i gael eu hadnabod yn y cyfamser fel “Union Square”) ac i ddarparu cartref parhaol ar gyfer y masnachwyr. Codwyd yr adeilad ar safle wedi'i feddiannu yn ddiweddarach gan y theatr Hippodrome (mae'r safle yn wag bellach, ar ôl ddymchweliad y theatr yn 2009). Ar ôl rhai blynyddoed, daeth yr adeilad i gael ei adnabod fel y Neuadd Gyhoeddus (“Public Hall”) ac cafodd ei defnyddio ar gyfer digywddiadau cyhoeddus, gan gynnwys adloniant a ddramau. Yn 1907 llosgodd y Neuadd Gyhoeddus. Cafodd ei amnewid gan adeilad newydd, gafodd ei ail-enwi yn y theatr Hippodrome. [3] Yn ddiweddarach ddefnyddiwyd y theatr fel sinema, ond caeodd yn 1998. Cafodd yr adeilad ei dinistrio gan dân yn 2008 ac yn 2009 fe'i dymchwelwyd. [4]
Disgrifiad
Mae Stryt Henblas yn cael ei dominyddu o hyd gan y Farchnad Gyffredinol, sy'n sefyll ar ochr ddwyreiniol y stryd. Mae'r adeilad o frics coch Rhiwabon [5] wedi cadw ei ffurf wreiddiol.
Ar bwys Stryt y Syfwr, mae Stryt Henblas wedi colli ei chymeriad hanesyddol, gydag adeiladau modern ar ei hochr ogleddol (yr hen siop adrannol BHS) a safle wag ar ei hochr ddeheuol (safle'r hen theatr Hippodrome).
Mae'r stryd yn cwrdd â Stryt y Banc o flaen mynedfa gefn Marchnad y Cigyddion, sy'n adlewyrchu arddull pensaernïol y Farchnad Gyffredinol gyda ffasâd o frics coch.
Cyfeiriadau
Oriel
-
Marchnad Gyffredinol - golygfa ar hyd Stryt Henblas
-
Marchnad Gyffredinol - porth cerfiedig
-
Marchnad y Cigyddion - mynedfa gefn