Stryd y Popty, Aberystwyth

Stryd y Popty
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Capel Seion, Stryd y Popty

Stryd yng nghanol tref Aberystwyth yw Stryd y Popty (Saesneg: Baker Street).

Hanes

Aberystwyth, Canolfan Cyngor y Dref, Stryd y Popty

Gorwedd y stryd i'r gogledd y tu hwnt i hen ffin ganoloesol y dre rhwng y Stryd Fawr (Great Darkgate Street) a Stryd y Porth Bach.

Adeiladwyd y stryd yng nghanol y 19g a cheir cofnod ohoni yn 1843.[1]

Nodweddion y stryd

Capel Bethel, Stryd y Popty
Pwmp beics am ddim

Mae'r stryd yn sefyll ar lethr sy'n gwyro i lawr at gyfeiraid y gogledd. Er gwaethaf y ffaith ei bod ynghanol y dref, mae'r stryd yn gymharol dawel gan nad oes siopau arni a ceir cilfan bychan i barcio yn ei chanol.

Ceir dau gapel fawr ar y stryd:

Ceir hefyd man parcio beics sy'n cynnwys pwmp am ddim at ddefnydd beiciau. Ariannwyd y pwmp gan Lywodraeth Cymru.

Ar gornel ddwyreiniol y stryd yn ffinio gyda Sgwâr Owain Glyndŵr ceir mynedfa i adeilad Banc y NatWest.

Ymysg rhai o'r bobl noddwediadol bu'n byw yn y stryd mae'r athronydd Leopold Kohr ac awdur The Breakdown of Nations bu'n darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1968 ac 1977.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol