Steve Bannon

Steve Bannon
Ganwyd27 Tachwedd 1953 Edit this on Wikidata
Norfolk Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Virginia Tech
  • Ysgol Gwasanaeth Dramor Edmund A. Walsh
  • Ysgol Fusnes Harvard
  • Prifysgol Harvard
  • Benedictine High School
  • Virginia Tech College of Architecture and Urban Studies Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, swyddog cyhoeddusrwydd, political adviser, strategist, gwleidydd, sgriptiwr, banciwr, gwyddonydd gwleidyddol, bancwr buddsoddi, cyflwynydd radio, cynghorydd, entrepreneur Edit this on Wikidata
SwyddCounselor to the President, White House Chief Strategist Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadCurtis Yarvin, Michael Anton, Alexander Dugin, Nassim Nicholas Taleb, Neil Howe, William Strauss, Julius Evola, Martin Heidegger, René Guénon, Charles Maurras, Pab Pïws XI, Sun Tzu, Vyasa, Olavo de Carvalho, Pat Buchanan, Edmund Burke Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
PriodCathleen Houff, Mary Piccard, Diane Clohesy Edit this on Wikidata

Cynhyrchydd ffilm, newyddiadurwr, ac ymgynghorydd gwleidyddol o'r Unol Daleithiau yw Steve Bannon (ganed Stephen Kevin Bannon, 27 Tachwedd 1953). Ef oedd prif strategydd ymgyrch Arlywyddol yr Unol Daleithiau, Donald Trump, o 20 Ionawr hyd 18 Awst 2017.

Personol

Ganed Stephen Kevin Bannon yn Norfolk, Virginia yn fab i Doris Herr a Martin Bannon, gosodwr ceblau ffôn. Roedd y teulu yn rhan o'r "dosbarth gweithiol", yn Gatholig Gwyddelig a chefnogwyr blaid Ddemocraidd[1]. Wedi graddio mewn cynllunio trefol yn 1976 o Brifysgol Virginia Tech, enillodd radd meistr mewn Astudiaethau Diogelwch Cenedlaethol o Brifysgol Georgetown. Yn 1985 cafodd MBA gydag anrhydedd o Ysgol Fusnes Harvard. O ddiwedd y 70au hyd at y 80au cynnar roedd yn swyddog morwrol ar long ddinistiwr Americanaidd, yr USS Paul F. Foster.

Gwleidyddiaeth

Bu Bannon yn gyfarwyddwr gweithredol o Breitbart News, gwefan barn, newyddion asgell dde[2]. Disgrifiodd Bannon y wefan fel llwyfan ar gyfer yr Alt-dde.[3]

Bu'n is-lywydd bwrdd y cwmni dadansoddi data, Cambridge Analytica. Dyma'r cwmni bu'n gweithio ar yr ymgyrch arlywyddol Donald Trump yn 2016 gan ddefnyddio data ddefnyddwyr Facebook mewn ffordd[4][5]. Ariennir y cwmni yn bennaf gan deulu Mercer Foundation Teulu, cyd-berchennog Breitbart[6].

Yn ystod yr etholiadau yn 2016 oedd y cydlynydd ymgyrch Trump, a 29 Ionawr 2017 daeth yn aelod o Gyngor y Llywodraeth ar gyfer y Diogelwch Cenedlaethol Trump.

Ar 5 Ebrill 2017 tynnwyd Bannon oddi ar y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol. Priodolodd Bannon y penderfyniad hyn i fuddugoliaeth o blaid ceisio rhoi gwedd 'gymhedrol' o dan arweiniad Ivanka Trump, merch yr Arlywydd Trump, a ddaeth yn rhan swyddogol o'r staff Tŷ Gwyn yn ystod yr wythnos cyn y diarddel Bannon[7]

Ar 18 Awst 2017 rhyddhawyd Bonnon o'i swydd fel prif strategydd yn y Tŷ Gwyn. Y diwrnod canlynol, dychwelodd Bannon fel llywydd gweithredol yn Breitbart News[8].

Ar 9 Ionawr 2018 gadawodd Newyddion Breitbart; mae hyn oherwydd y datguddiadau a adroddwyd yn y llyfr "Fire and Fury" lle fe feirniadodd Ivanka Trump a'i gŵr Jared Kushner. Mae'r penderfyniad yn deillio o fygythiad o golli cefnogaeth ariannol sylweddol gan y biliwnydd Rebekah Mercer, oherwydd barn Bannon o'r y teulu Trump a sgadal 'Russiagate' (lle nodwyd bod Trump wedi cydweithio gyda'r Rwsiaid i ennill yr Arlywyddiaeth.

Athroniaeth

Steve Bannon a Reince Priebus mewn cynhadledd ar ddyfodol Ceidwadaeth, 2017

Economeg

Mae Bannon yn hyrwyddo lleihau mewnfudo a chyfyngderau ar farchnad rydd, yn enwedig gyda Xeina a Mecsico. Mae'n ffafrio codi trethi ffederal UDA i 44% i rai sy'n ennill dros $5 miliwn y flwyddyn er mwyn talu am dorri trethi i'r dosbarth canol. Mae hefyd yn gefnogol i gynyddu gwariant cyhoeddus ar is-adeiladedd, gan ddisgrifio ei hun fel "the guy pushing a trillion-dollar infrastructure plan".[9] Mae Bannon yn wrthwynebus i'r wlad yn rhoi 'bailout' i fusnes gan eu disgrifio fel "socialism for the very wealthy".[10]

Rhyfel

Ar y cyfan, mae Bannon yn sgeptig o ymyrraeth filwrol yr UDA mewn gwledydd tramor gan wrthwynebu ymestyn ymyrraeth America yn Afghanistan, y Rhyfel yn Syria, ac argyfwng Venesuela. Fel Prif Strategydd y Tŷ Gwyn, gwrthwynebodd ymosodiad ar Syria, ond uwch-benderfynwyd drosto gan Jared Kushner, Prif Gynghorydd i'r Arlywydd, Donald Trump.[11]

Pleidiau Cenedlaetholaidd Asgell Dde Tramor

Mae Bannon wedi bod yn gefnogol o bleidiau a mudiadau cenedlaetholaidd asgell dde Ewrop fel y Front Natonal yn Ffrainc, Gert Wilders yn yr Iseldiroedd, yr AfD, Alternative für Deutschland yn yr Almaen, y Lega yn yr Eidal, Freiheitspartei yn Awstria a'r SVP (Plaid Pobl Swistir) a Victor Orbán Prif Weinidog Hwngari.[12] Mae Bannon yn awyddus i weld cydweithio rhwng mudiadau'r dde genedlaetholaidd[13] mae am sefydlu rhwydwaith sefydlog.[14]

Cred Bannon yn ymladd yn erbyn mewnfudo o wledydd nad sy'n rhan o'r traddodiad 'Cristnogol', "bancwyr byd-eang"[13] . Mae wedi ei ddylanwadu gan sawl athronydd asgell lle a cheidwadol gan gynnwys Julius Evola, er fod Evola yn gwrthddweud nife o safbwyntiau Cristnogol.[15]

Cyfeiriadau

  1. https://www.telegraph.co.uk/news/2016/11/14/steve-bannon-who-is-the-donald-trumps-chief-strategist-and-why-i/
  2. https://www.cbsnews.com/news/steve-bannon-and-the-alt-right-a-primer/
  3. https://edition.cnn.com/2016/11/16/politics/what-is-white-nationalism-trnd/
  4. https://edition.cnn.com/2017/10/27/politics/trump-campaign-wikileaks-cambridge-analytica/index.html
  5. https://www.theguardian.com/news/2018/mar/17/cambridge-analytica-facebook-influence-us-election
  6. https://www.politico.eu/blogs/on-media/2017/02/breitbart-reveals-owners-ceo-larry-solov-the-mercer-family-and-susie-breitbart-donald-trump-media/
  7. https://www.ilfattoquotidiano.it/2017/08/18/usa-nyt-trump-ha-gia-deciso-di-cacciare-bannon/3802709/
  8. https://www.huffingtonpost.it/2017/08/19/steve-bannon-torna-a-breitbart-la-presidenza-trump-per-la-qual_a_23152302/
  9. http://www.hollywoodreporter.com/news/steve-bannon-trump-tower-interview-trumps-strategist-plots-new-political-movement-948747
  10. https://qz.com/898134/what-steve-bannon-really-wants
  11. http://dailycaller.com/2017/04/07/bannon-lost-to-kushner-in-syria-strike-debate
  12. https://www.thedailybeast.com/steve-bannons-dream-a-worldwide-ultra-right
  13. 13.0 13.1 https://www.thelocal.ch/20180307/trump-before-there-was-trump-steve-bannon-praises-swiss-right-wing-leader-christoph-blocher
  14. http://uk.businessinsider.com/steve-bannon-the-movement-boost-far-right-in-europe-2018-7?r=US&IR=T[dolen farw]
  15. https://www.nytimes.com/2017/02/10/world/europe/bannon-vatican-julius-evola-fascism.html

Dolenni allanol