Mynyddoedd yn Ne Cymru Newydd, Awstralia, yw'r Snowy Mountains. Ceir pum copa uchaf Awstralia yma, yn cynnwys Mynydd Kosciuszko (2,228 medr), a phedwar copa arall dros 2,100 medr.
Saif y mynyddoedd yn ne talaith New South Wales. Maent yn rhan o fynyddoedd yr Alpau Awstralaidd a'r Wahanfa Fawr. Ceir tarddiad afon Murrumbidgee ac afon Murray yma. Mae'r ardal yn fwyaf adnabyddus am y cynllun enfawr o adeiladu cronfeydd ar afon Snowy i ddarpari dŵr ar gyfer dyfrhau cnydau a chynhyrchu trydan.