Seren ddisgleiriaf yn wybren y nos yw Sirius, gyda mantioli ymddangosol (gweladwy) o −1.46.[1][2]
Mae hi oddeutu 8.6 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng nghytserCanis Major. Adnabyddir hefyd fel Alffa Canis Majoris (α CMa).[2]
Hanes a mytholeg
Mae'r enw Sirius yn dod o'r Groeg hynafol Σείριος (Seirios) sydd yn golygu tanbaid. Adnabyddir Sirius hefyd fel Seren y Ci oherwydd y cysylltiad gyda'r cytser Canis Major, y Ci Mawr. Roedd gan yr Eifftiaid hynafol fytholeg eang yn ymwneud â Sirius, ac yr oedd codiad y seren ychydig cyn yr Haul yn dynodi'r cyfnod o'r flwyddyn pan oedd Afon Nîl yn gorlifo. Fe galwodd y Groegwyr hynafol y cyfnod hwn dyddiau'r cŵn.[3]
Yn 2016 cydnabyddodd yr Undeb Seryddol Rhyngwladol yr enw Sirius fel un swyddogol.[4]
Mae'r enw wedi cael ei ddefnyddio yn Gymraeg ers canrifoedd.[5]
Natur y seren
Mae Sirius yn seren ddwbl, gyda un o'r cydrannau, Sirius A, yn llawer iawn mwy disglair na'r ail, Sirius B. Gyda dosbarth sbectrol o A1V, mae Sirius A yn ymddangos gyda lliw gwyn i'r llygad noeth pan yn uchel yn yr awyr nos. Mae gan Sirius A fàs 2.12 gwaith màs yr Haul.[6]
Seren gorrach gwyn yw Sirius B gyda mantioli ymddangosol (gweladwy) o 8.44. Gallai Sirius B fod yn anodd i'w weld trwy rhai telesgopau seryddwyr amatur oherwydd effaith golau Sirius A. Mae'r ddwy seren yn cylchdroi dros gyfnod o 50 mlynedd. Mae'r pellter rhwng y ddwy yn newid o 8.1 i 31.5 gwaith y pellter rhwng yr Haul a'r Ddaear, oherwydd eu cylchdroeon hirgrynion. Mae gan Sirius B fàs 1.03 gwaith màs yr Haul.[6]
Y seren yn y wybren
Ymddangosir Sirius yn agos i gytser Orion yn y wybren, a mae Sirius yn hawdd i'w ganfod trwy ddilyn llinell trwy tair seren wregys Orion i'r de-ddwyrain.
Lleolir yr Haul yn wrthgyferbyniol i Sirius yn y wybren ar ddechrau mis Ionawr, oherwydd symudiad y Ddaear o amgylch yr Haul, a felly rhwng Ionawr a Mawrth mae Sirius yn rhan nodadwy o'r awyr nos am oriau ar ôl iddi nosi. Mae hwn yn golygu bod Sirius i'w weld gorau yn ystod y gaeaf o hemisffer gogleddol y byd, ac yn ystod haf hemisffer y de.
Gyda gogwyddiad o −17°, dydy Sirius byth yn codi mwy nag 22° uwchben y gorwel o Gymru. Felly, o Gymru, pan mae Sirius i'w weld yn yr awyr nos, gwelir uwchben gorwel y de, de-ddwyrain neu dde-orllewin. Oherwydd ei fod yn aml yn isel yn yr awyr, ac oherwydd ei ddisgleirdeb, mae Sirius yn aml yn dangos newidiadau yn ei liw a disgleirdeb i arsyllwyr yng Ngogledd Ewrop–effaith atmosffer y Ddaear yw hwn a dim byd i wneud â'r seren ei hun.
Mae Sirius y seren ddisgleiriaf o'r Ddaear oherwydd ei agosrwydd cymharol a'r ffaith bod y seren yn allyrru llawer o oleuni ei hun.
Cyfeiriadau
↑Hoffleit, Dorrit; Jaschek, Carlos (1982). The Bright Star Catalog. New Haven, Connecticut: Yale University Observatory. (4ydd argraffiad) (Yn Saesneg.)
↑ 2.02.1"Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Cyrchwyd 16 Mawrth 2017. (Yn Saesneg.) Ymchwiliad am Sirius yn adnodd Simbad.
↑Allen, Richard Hinckley (1899). Star-Names and Their Meanings. Efrog Newydd: G. E. Stechert. Tud. 120–129. (Yn Saesneg.)
↑IAU Division C Working Group on Star Names (2016). "IAU Catalog of Star Names" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-12. Cyrchwyd 2 Ebrill 2017. Unknown parameter |author-url= ignored (help) (Catalog swyddogol enwau traddodiadaol sêr yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.)
↑Roberts, Robert (1816). Daearyddiaeth. Caer. Tudalen 16.
↑ 6.06.1Kaler, James B. (6 Medi 2009). "Sirius". Stars (yn Saesneg). Prifysgol Illinois. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-08. Cyrchwyd 17 Mawrth 2017.