Simonetta Cattaneo de Vespucci (1453 – 26 Ebrill 1476), neu "la bella Simonetta", neu "La Sans Pareille", oedd gwraig Marco Vespucci o Fflorens yn yr Eidal. Honwyd hefyd y bu'n feistres i Giuliano de' Medici, brawd Lorenzo de' Medici, ac roedd yn enwog fel merch harddaf ei chyfnod yn yr Eidal. Ganed hi yn Genova.
Hi a welir yn beintiadau enwog Sandro Botticelli, Genedigaeth Gwener a La Primavera. Ysgrifennodd y beirdd Agnolo Poliziano a Luigi Pulci amdani.
Bu farw yn Fflorens yn 1476.[1]