Siarter Coed i’r Werin

Siarter Coed i’r Werin

Dogfen sy'n sefydlu egwyddorion yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cymdeithas lle gall pobl a choed byw gyda’i gilydd er lles ei gilydd yw’r Siarter Coed i’r Werin. Sefydlwyd y fenter gan Coed Cadw mewn cydweithrediad â 70 o gyrff eraill. Fe'i lansiwyd yng Nghastell Lincoln ar 6 Tachwedd 2017; pen-blwydd Siarter y Fforest o 1217 yn 800 mlwydd oed.

Dyma'r prif egwyddorion:

  1. Deall ac amddiffyn swyddogaeth coed yn cefnogi bywyd gwyllt
  2. Cryfhau cynefinoedd pwysig gyda phlannu newydd
  3. Creu rhwydweithiau trafnidiaeth ar gyfer bywyd gwyllt a phobl
  4. Cynnal cynefinoedd coetir gwerthfawr a bregus
  5. Ffermio’r tir ar gyfer bywyd gwyllt a phobl
  6. Caniatáu cylch bywyd
  7. Bod yn gymdogion parchus i’n bywyd gwyllt
  8. Caniatáu i natur gyflawni’r hyn mae’n ei gwneud orau

Dolen allanol