Cân waith a genid yn wreiddiol gan forwyr yn Oes yr Hwylio yw sianti,[1] cân fôr, neu gân morwr.[2] Nodweddir ffurf y sianti gan unawd a chytgan am yn ail, yr unawd a genir gan y siantïwr[3] (a ddewisid am ei allu morwrol yn hytrach na'i ddawn gerddorol) a'r gytgan gan aelodau eraill y criw. Byddai rhythm y gân yn cynorthwyo wrth wneud y gwaith ar y llong, fel rheol tynnu rhaff, gyda'i gilydd. Dan arweiniad llafarganu'r siantïwr, a safai ar flaen y rhaff, byddai'r morwyr yn ateb ac yn halio ar y cyd ar le penodol yn y gân. Tynnodd y tonau'n aml ar faledi, caneuon gwerin, ac alawon poblogaidd eraill. Cenid ar gyflymder a oedd yn addas i'r gwaith wrth law, a gallai'r siantïwr cyfansoddi'r dôn a'r geiriau ar y pryd er mwyn estyn hyd y sianti i gyflawni'r dasg.[4] Mae geiriau siantïau yn ymwneud â bywydau morwyr, mordeithiau, llongau, y capten, a merched.
Rhennir siantïau yn dri prif fath, yn cyfateb i'r gwaith ar fwrdd y llong:
- Sianti fer, caneuon syml ar gyfer ychydig o haliadau;
- Sianti'r hwylraff, gyda rhythm o dynnu ac ymlacio ar gyfer tasgau megis codi'r hwyliau;
- Sianti'r capstan neu sianti'r ddirwynlath, i gydamseru camau'r morwyr, er enghraifft wrth godi'r angor.[4]
Tardda'r enw sianti, trwy'r ffurfiau Saesneg shanty, chantey a chanty, o'r Ffrangeg chanter, sef "canu".
Siantis yn Gymraeg
Cyfansoddwyd a chyfieithwyd llawer o siantis Cymraeg gan John Glyn Davies, megis y rhai sy'n ymwneud â Fflat Huw Puw.[5][6]
Dolenni
Cyfeiriadau