Cychwynodd sgandal cig ceffyl 2013 ar 15 Chwefror 2013, pan sylweddolwyd (drwy ddadansoddi DNA bwyd mewn siopau yn Ewrop) fod llawer o fwydydd wedi'u cam-labelu. Roedd y cynnwys yn wahanol i'r label, gan ei fod yn cynnwys 60–100%[1] o gig ceffyl yn ogystal â chig eidion. Olrheiniwyd y nwyddau hyn i'r ffatri pecynnu, y ffatri prosesu cig ac oddi yno i'r lladd-dai. Gwnaed hyn, mae'n debyg oherwydd fod cig ceffyl yn llawer rhatach na buwch, ac felly roedd y cwmniau a oedd yn llwyddo i dwyllo'r cwsmer yn y modd hwn yn gwneud mwy o elw; ar adegau defnyddiwyd porc gan ei fod hefyd yn rhatach na chig eidion.[2]
Roedd dwy elfen i'r sgandal: yn gyntaf yr elfen o dwyllo'r cwsmer, gan fod y label yn wahanol i'r cynnwys. Roedd yr ail elfen yn ymwneud â'r perygl nad oedd y cig yn iach, oherwydd ei fod yn cynnwys cemegolion y ffariar neu afiechydon megis equine infectious anaemia (EIA).
Ymhlith y cwmnïau cyntaf i gydnabod eu heuogrwydd yr oedd Tesco, Asda, Dunnes Stores, Lidl, Aldi ac Iceland. Ychydig wedyn cyhoeddodd Burger King, sydd â dros 500 allfa bwyd parod yn Iwerddon a gwledydd Prydain, eu bod yn peidio defnyddio un o'u prif gyflenwyr sef Silvercrest.[3]