Sefydliad preifat sy'n rheoli cyllid ac yn gweinyddu'r Gwobrau Nobel yw'r Sefydliad Nobel (Swedeg: Nobelstiftelsen). Sefydlwyd ar 29 Mehefin 1900 yn Stockholm yn unol ag ewyllys Alfred Nobel. Yn sgil diddymu'r undeb rhwng Sweden a Norwy ym 1905, cafodd y cyfrifoldeb dros wobrwyo ei rhannu rhwng y ddwy wlad: Pwyllgor Nobel Norwy sy'n gwobrwyo Gwobr Heddwch Nobel, a phwyllgorau Sweden sy'n dewis enillwyr y pedair gwobr arall (Llenyddiaeth, Ffiseg, Cemeg, Ffisioleg neu Feddygaeth, ac (ers 1969) Economeg.