Cerddorwr roc, gwleidydd a maferic o Loegr oedd David Edward Sutch neu Screaming Lord Sutch (Cymraeg: "Yr Arglwydd Sgrechlyd Sutch") (10 Tachwedd 1940 – 16 Mehefin 1999). Cafodd yrfa hir fel cerddor dan ei lysenw "Screaming Lord Sutch" a daeth yn adnabyddus i gynulleidfa ehangach fel sylfaenydd yr Official Monster Raving Loony Party a safai mewn nifer o etholiadau ac is-etholiadau yn y 1980au a'r 1990au, yn aml yn erbyn gwleidyddion amlwg.
Gyrfa wleidyddol
Sefydlodd yr Official Monster Raving Loony Party yn 1983 ac ymladdodd yn is-etholiad Bermondsey. Yn ystod ei yrfa safodd mewn dros 40 etholiad. Roedd yn ffigwr hawdd i'w adnabod yn y cownt etholiadol oherwydd ei ddillad lliwgar. Yn fuan ar ôl iddo ennill rhai cannoedd o bleidleisiau yn etholiad Finchley yn 1983, gan achosi cryn embaras i Margaret Thatcher ar y noson, y codwyd y deposit a delir gan ymgeisgwyr etholiad o £150 i £500. Parhaodd Sutch i sefyll, fodd bynnag, gan ddefnyddio ei enillion o'i gyngherddau roc i dalu am ei ymgyrchoedd tafod-mewn-boch. Bu ar raglen gyntaf y gyfres deledu ddychanol The New Statesman ar ITV - fel ef ei hun - gan ddod yn ail yn ffug etholiad 1987 (o flaen ymgeiswyr Llafur a'r SDP) a welodd Alan B'Stard (cymeriad Rick Mayall) yn cael ei ethol i San Steffan.