Santes oedd Dwynwen ac un o 24 merch Brychan Brycheiniog, yn y 5g.[1] Heddiw hi yw nawddsant cariadon Cymru. Dethlir diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr trwy i gariadon anfon cardiau i'w gilydd.
Bywyd Dwynwen
Yn ôl yr hanes yr oedd Dwynwen mewn cariad â Maelon, mab pennaeth llwyth arall. Ceisiodd Maelon gymryd mantais rhywiol o'i chariad ond gwrthododd Dwynwen. Gwylltiodd Maelon a'i threisio hi "gan ddwyn malais arni yng gŵydd y byd" [2] Collodd Maelon bob diddordeb ynddi wedyn ("yn troi fel talp o iâ"). Yn ei thrallod dihangodd hi i'r goedwig lle y gweddïodd ar i Dduw ei rhyddhau o'i chariad at Maelon. Gweddïodd yn daer nes blino'n llwyr a syrthiodd i gysgu. Breuddwydiodd ei bod wedi yfed diod oedd yn ei hiacháu hi ond bod Maelon wedi yfed o'r un ddiod a'r diod wedi ei droi yn dalp o iâ. Gwnaeth Dwynwen dri chais mewn gweddi. Yn gyntaf, gofynnodd ar Dduw i ddadmer Maelon. Yn ail gofynnodd i Dduw ateb ei gweddïau dros gariadon fel y buasent, naill ai'n cael dedwyddwch parhaol os oeddent yn caru yn gywir o'r galon, neu yn cael eu hiacháu o'u nwyd a'u traserch. Yn drydydd gofynnodd am beidio â dymuno priodi byth. Ar ôl i'w dymuniadau gael eu gwireddu, daeth Dwynwen yn nawddsant cariadon.[3]
Sefydlu Llanddwyn a Llangeinwen
Symudodd Dwynwen a'i chwaer Ceinwen at berthnasau i Fôn. Sefydlodd Dwynwen ar benrhyn a elwir heddiw'n "Ynys Llanddwyn" ger traeth Niwbwch ond nid oedd yn ynys bryd hynny.[4] Ni bu Llanddwyn yn fan anghysbell yn y 5g fel y mae hi heddiw; y mae'n llai na phum milltir o Aberffraw, un o brif lysoedd Cymru o'r Oes Haearn hyd at yr Oesoedd Canol. Roedd Llanddwyn hefyd yn agos i'r prif llwybr morwrol i Iwerddon – o ollewin Ynys Môn i Dun Laoghaire. Bu Dwynwen fyw yn Llanddwyn tan ei marwolaeth yn 460 O. C.
Dywediadau Dwynwen
Priodolir iddi y dywediad "nid enillir calonnau cyn gynted â sirioldeb" a ddyfynnir yng nghân Baring -Gould and Fisher,[2] er eu bod hwy yn cofnodi fersiwn wahanol o'r hanes. Iolo Morgannwg yw ffynhonnell dywediad arall: "A glywaist ti chwedl Dwynwen Santes, merch deg Brychan hen? Nid caruaidd ond llawen" a geir yn llawysgrif 1848'.
Yn ôl y tair gweddi Lladin a ychwanegwyd at Lyfr Offeren Bangor ym 1494, cerddodd Dwynwen yr holl ffordd dros fôr Iwerydd rhag llid Maelgwn Gwynedd. Yn llawysgrifau Iolo Morganwg ceir fersiwn wahanol, sef y fersiwn uchod. Ym marddoniaeth Dafydd Trefor (c.1460–1528) disgrifir cleifion yn cael eu hiacháu gerllaw ei ffynnon a'i chapel. Bu Dwynwen yn enwog ledled Gwynedd yn yr Oesoedd Canol a bu ymweld â Llanddwyn yn boblogaidd iawn.
Dafydd ap Gwilym
Saif adfeilion eglwys Dwynwen, a godwyd yn y 14g, hyd heddiw ar ynys Llanddwyn ar safle y llan wreiddiol. Yn ystod y 14g gwelodd y bardd Dafydd ap Gwilym ddelw aur o Ddwynwen y tu mewn i'r eglwys. Yn ddewr (neu'n ddigywilydd) gofynnodd iddi fod yn llatai rhyngddo a Morfudd, y ferch a ddymunai ei hennill. Gwnaeth hyn, er fod Morfudd eisoes yn briod.
Coelion y Werin am Ddwynwen
Yn agos i'r eglwys mae ffynnon a elwir "Crochan Dwynwen". Dywedid fod symudiad y pysgod yn y ffynnon yn rhagfynegi ffawd rhywun sy'n dymuno priodi. Cysegrwyd sawl ffynnon iddi, gan gynnwys un ger Niwbwrch, sydd erbyn hyn wedi'i llenwi â thywod. Credid hefyd bod dŵr y ffynnon yn iacháu pobl wael. Arferodd pobl leol ddod â'u hanifeiliaid gwael i Landdwyn. Felly dros y canrifoedd daeth Dwynwen yn noddwraig gwartheg hefyd. Cofnodir un hanes a ddigwyddodd tua 1650 am ychen, a oedd yn gweithio ar y Sul, yn cael braw ac a redodd tua'r môr a boddi. Oherwydd hyn dechreuodd yr arfer o osod canhwyllau yn eglwys Llanddwyn i rwystro trychinebau rhag digwydd i ych aredig.[angen ffynhonnell]
Agweddau at Ddwynwen
Ni ledodd y diddordeb yn Nwynwen y tu allan i Gymru a Chernyw ac ni ddangosodd yr Eglwys Gatholig ddiddordeb ynddi hi fel santes am ganrifoedd. Nid oedd hi'n wyryf; ond ymhlith pobl Môn mae dilyn arferion cysylltiedig â Dwynwen wedi parhau yn ddi-dor.
Ychwanegodd sawl manylyn i 'barchuso' hanes Dwynwen yn ddiweddarach. Honnodd ei bod hi wedi gwrthod priodi Maelon gan nid oedd yn ŵr addas (heb sôn am dreisio), neu awgrymodd fod Brychan wedi gwrthod caniatáu y briodas (fersiwn annhebygol iawn oherwydd yr oedd gan ferched Brycheiniog yr hawl i ddewis eu gŵyr eu hun). Yn yr 20g ailsefydlwyd Dwynwen fel nawddsant cariadon Cymru.