Enwyd Sant-Brieg ar ôl sant o Gymru, Sant Briocus, a fu'n efengylu yn yr ardal yn y 6g ac a sefydlodd gell neu gapel yma. Enwir un o esgobaethau traddodiadol Llydaw, Bro Sant-Brieg, ar ôl y dref.
Mae ysgol ddwyieithog yn Sant-Brieg ers 1979. Mae 3.7% o blant y dref yn ei mynychu.