Samuel D. Ratcliffe

Samuel D. Ratcliffe
Ganwyd1945 Edit this on Wikidata
Bu farw1995 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethsgriptiwr Edit this on Wikidata

Sgriptiwr teledu o'r Unol Daleithiau oedd Samuel D. Ratcliffe (19451995) yn sgriptiwr aenillodd Wobr Emmy am ei waith.

Cafodd ei fagu ym Birmingham, Alabama a graddiodd o Goleg Deheuol Birmingham, cyn symud i Efrog Newydd ym 1963 er mwyn dilyn gyrfa fel actor. O 1963 tan ganol y 1970au, ymddangosodd mewn hysbysebion, ffilmiau a'r theatr. Chwaraeodd gymeriad Matt yn y ddrama oddi-ar Broadway, The Fantastiks a serennodd yn y sioe gerdd ar Broadway, Hurry Harry.

Ym 1976, dechreuodd ysgrifennu ar gyfer dramâu teledu dyddiol. Enillodd nifer o wobrau gan gynnwys Emmy Dydd ym 1991 am ei waith fel prif ysgrifennwr ar gyfer Santa Barbara NBC. Ef hefyd oedd prif ysgrifennwr Texas ac Another World ar NBC.

Teithiodd yn helaeth a siaradai ddwsin o ieithoedd. Bu farw yn Ninas Efrog Newydd.


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.