Mae Samantha Zoe Womack (née Janus; ganed 2 Tachwedd 1972 yn Brighton) yn actores a chantores Seisnig, a bu'n chwarae rhan Ronnie Mitchell yn EastEnders. Cyn hyn, chwaraeodd rhan Mandy Wilkins yn Game On, a chynrychiolodd y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 1991.
Cafodd ei henwebu fel yr Actores Orau yn Gwobrau Sebon 2009 ac ar hyn o bryd, mae wedi'i henwebu am yr Actores Orau mewn Opera Sebon yng nghylchgrawn 'Inside Soap'.