Sam Edwards |
---|
|
Ganwyd | 1 Chwefror 1928 Abertawe |
---|
Bu farw | 7 Mai 2015 Caergrawnt |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
ymgynghorydd y doethor | - Julian Schwinger
|
---|
Galwedigaeth | ffisegydd damcaniaethol, academydd, ffisegydd, golygydd |
---|
Cyflogwr | |
---|
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Brenhinol, Gwobr Boltzmann, Ehrendoktor der Universität Tel Aviv, doethur anrhydeddus Prifysgol Caeredin, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, Cymrawd Cymdeithas Ffiseg America, Medal Davy, Medal a Gwobr Maxwell, ICTP Dirac Medal, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Guthrie Medal and Prize, honorary doctor of the University of Bath, honorary doctor of Johannes Gutenberg University Mainz, Polymer Physics Prize |
---|
Ffisegydd o Gymru oedd Syr Samuel Frederick Edwards, FLSW FRS (1 Chwefror 1928 - 7 Mai 2015),[1] a adnabuwyd yn gyffredinol fel "Sam".[2]
Bywyd cynnar ac addysg
Ganed Syr Samuel ar 1 Chwefror 1928 yn Abertawe, yn fab i Richard a Mary Jane Edwards. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Esgob Gore, Abertawe, a Choleg Gonville a Caius, Caergrawnt, Prifysgol Manceinion, ac ym Mhrifysgol Harvard, yn yr Unol Daleithiau. Ysgrifennodd ei draethawd ymchwil dan Julian Schwinger ar strwythur yr electron, ac wedyn datblygodd y ffurf annatod swyddogaethol o theori maes.[1]
Ymchwil academaidd
Dechreuodd gwaith Edwards mewn ffiseg mater cyddwysedig ym 1958 gyda phapur [cyhoeddiadau 1] a oedd yn dangos y gallai priodweddau ystadegol systemau afreolus (gwydr, geliau ac ati) cael eu disgrifio trwy ddiagram Fenyman a dulliau llwybr integredig a dyfeisiwyd mewn theori maes cwantwm. Daeth ei bapur seminar [cyhoeddiadau 2] ym 1965 a sefydlodd mewn un strôc y ddealltwriaeth feintiol fodern o fater polymer [2] yn sail i Pierre-Gilles de Gennes ymestyn gwaith arloesol Edwards o 1965, gan arwain at Wobr Nobel 1991 i de Gennes mewn Ffiseg.[2]
Daeth theori Doi-Edwards o glud-elastigedd toddiant polymer yn wreiddiol o gyhoeddiad gan Edwards ym 1967 [cyhoeddiadau 3]. Estynnwyd yr ymchwil gan de Gennes ym 1971 a chafodd ei ffurfioli wedyn trwy gyfres o gyhoeddiadau gan Edwards a Masao Doi yn niwedd y 1970au.[2]
Gweithgareddau gweinyddol a chydnabyddiaeth broffesiynol
Bu'n Gadeirydd y Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth rhwng 1973-1977 a rhwng 1984-1995 roedd yn Athro Ffiseg Cavendish ym Mhrifysgol Caergrawnt. Bu'n aelod o Fwrdd Noddwyr The Bulletin of the Atomic Scientists a Llywydd Cymdeithas Caergrawnt ar gyfer Cymhwysiad Ymchwil.
Dyrchafwyd Edwards yn farchog ym 1975. Ymysg y gwobrau a gyflwynwyd iddo mae Medal Davy (1984) Medal Frenhinol y Gymdeithas Frenhinol (2001), medal Boltzmann Undeb Rhyngwladol Ffiseg Pur a Chymhwysol (1995),[3] a Medal Dirac y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ffiseg Ddamcaniaethol (2005). Roedd hefyd yn Gymrawd Sylfaenol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac roedd ganddo radd er anrhydedd (Doethur y Gwyddorau) o Brifysgol Caerfaddon (1978).
Bywyd personol
Yn 1953 priododd Syr Sam gyda Merriell E.M. Bland, bu iddynt dair merch a mab. I ymlacio roedd yn hoffi garddio a cherddoriaeth siambr. Bu farw Syr Samuel yng Nghaergrawnt ar 7 Mai 2015.[4]
Cyhoeddiadau
Cyfeiriadau
Darllen pellach
- Stealing the gold: a celebration of the pioneering physics of Sam Edwards, gol. Paul M. Goldbart, Nigel Goldenfeld, a David Sherrington (Rhydychen: Oxford University Press, 2004)
- Martin Sherwood, "A man for difficult problems". New Scientist 60 (22 Tachwedd 1973): 538-9