Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd.
Saethwyd Michael Brown ar 9 Awst 2014 yn Ferguson, Missouri, un o faestrefiSt. Louis. Bachgen 18-oed du oedd Michael Brown, ac fe'i saethwyd yn farw gan Darren Wilson, un o heddweision gwynion dinas Ferguson. Dilynwyd y digwyddiad hwn, a'r amgylchiadau amheus, gan brotestiadau ledled Unol Daleithiau America a gwledydd eraill. Bu hefyd yn sbardyn i drafodaethau ynghylch hawliau pobl dduon, y gyfraith a gor-ddefnydd grym heddweision. Ceir honiadau gan rhai carfanau fod y saethu'n llofruddiaeth.
Y digwyddiad
Cerdded i lawr y stryd oedd Brown a'i gyfaill Dorian Johnson, pan yrrodd Wilson atynt yn ei gar a gorchymyn iddynt symud i'r pafin. Dechreuodd Brown a Wilson ddadlau gyda'i gilydd drwy'r ffenest agored a thaniodd Wilson ei wn. Rhedodd y ddau ddyn du i wahanol gyfeiriad a saethodd Wilson atynt sawl gwaith wrth iddynt ffoi. Taniodd 12 gwaith;[1] tarrodd 8 neu 9 o'i fwledi Brown.[2][3][4][5]
Roedd rhai tystion (i'r digwyddiad) yn hawlio fod dwylo Brown i fyny i ddangos ei fod yn ildio, ond roedd eraill yn gwadu hynny; dywedodd tystion eraill mai rhedeg tuag at Wilson yr oedd.
Ar ôl y digwyddiad
Canylyniad i'r saethu oedd aflonyddwch cymdeithasol yn Ferguson, yn bennaf gan fod y rhan fwyaf o bobl yn argyhoeddiedig mai ffoi oedd Brown ac yn rhannol oherwydd tensiwn ers tro rhwng y mwyafrif du o fewn cymuned y ddinas a'r heddlu - gyda'r mwyafrif ohonynt yn wyn.[6] Protests, both peaceful and violent, along with vandalism and looting, continued for more than a week, resulting in night curfews. Ar ben hyn, beirniadwyd ymateb yr heddlu i'r digwyddiad yn hallt gan y cyfryngau a gwleidyddion. Mynegwyd pryder fod yr heddlu wedi bod yn ansensitif, fod eu techneg yn rhy llawdrwm a'u dulliau'n rhy 'mfwrol'. Cafwyd nifer o brotestiadau heddychlon yn ystod yr wythnosau dilynol.
Ar 24 Tachwedd dywedodd Robert P. McCulloch, Prif Erlynydd St. Louis, Missouri i uchel-reithgor ymchwilio i'r mater a phenderfynu na ddylid erlyn Wilson. Cofrestrwyd aelodau'r uchel-reithgor ym Mai 2014 - cyn y saethu, ac roedd tri'n ddu a naw yn wyn.[7]
Ar 1 Rhagfyr 2014 cyhoeddodd yr Arlywydd Barack Obama y byddai llywodraeth ffederal y wlad yn gwario US$75 miliwn ar gamerau gwisg i heddweision, fel ymateb i saethu Brown.[6][8]
↑Berkowitz, Bonnie; Johnson, Richard; Cameron, Darla; Schaul, Kevin; Robinson, Ian (26 Tachwedd 2014). "The confrontation: Different stories". The Washington Post. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2014.