Robin rosliw

Robin Rosliw

Aderyn bach paserin sy'n frodorol o Awstralia yw'r robin rosliw (Petroica rosea). Fel llawer o robiniaid lliwgar y Petroicidae, mae'n ddeumorffig yn rhywiol. Mae gan y gwryw fron binc nodedig. Mae ei rannau uchaf yn llwyd tywyll gyda gwyn uwch bon ei phig, a'i chynffon yn ddu gyda blaen gwyn. Mae'r rhannau isaf a'r ysgwydd yn wyn. Llwyd-frown di-nod yw'r fenyw. Mae gan y robin rosliw big a llygaid duon.

Mae'n endemig i Awstralia i'r dwyrain neu i'r de o'r Great Dividing Range, o Queensland drwodd i dde-ddwyrain De Awstralia. Ei gynefinoedd naturiol yw ceunentydd a dyffrynnoedd coedwigoedd tymherus a choedwigoedd iseldir llaith is-drofannol neu drofannol.

Tacsonomeg

Fel pob "robin goch" yn Awstralia, nid yw'r robin rosliw yn perthyn yn agos i'r robin goch Ewropeaidd na'r robin goch Americanaidd, ond mae'n perthyn yn hytrach i'r 'parfurdd' Corvida sy'n cynnwys llawer o baserinau trofannol ac Awstralaidd, gan gynnwys pardalotiaid, y ceinddrywod a bwytawyr mêl, yn ogystal â brain. Mae'n perthyn i'r genws Petroica, y mae ei aelodau Awstralia yn cael eu hadnabod ar lafar fel "Robins Coch" yn wahanol i "Robinod Melyn" y genws Eopsaltria. Fe'i disgrifiwyd gyntaf gan adaregydd John Gould ym 1840, gyda'i epithet penodol yn deillio o'r Lladin roseus 'pinc'[1]. Mae profion ar DNA niwclear a mitocondriaidd aelodau Awstralia o'r genws Petroica yn awgrymu mai'r robin rosliw a'r robin binc yw perthynas agosaf i'w gilydd o fewn y genws[2]

Dosbarthiad a chynefin

Mae cynefin arferol y robin rosliw yn nwyrain a de-ddwyrain Awstralia, o Rockhampton i'r dwyrain o'r Great Dividing Range trwy ddwyrain De Cymru Newydd a Fictoria i dde-ddwyrain De Awstralia. Nid yw'n digwydd yn Nhasmania. Fe'i ceir mewn coedwig sgleroffyl (math o lysdyfiant addasiedig i cyfnodau hir o sychder a gwres) gwlyb a fforest law, lle mae'n byw mewn ceunentydd a chymoedd, gan ymwasgaru i goedwig sychach mewn misoedd oerach [3]. Bygythir y robin rosliw gan ddatblygu a chlirio ardaloedd coedwigol, sydd wedi arwain ato'n diflannu yn yr ardaloedd hynny. Cofnodwyd poblogaethau mewn ardaloedd cadwraeth, sef y Dandenong Creek, Scotchmans Creek a Gardiners Creek Corridors, ym maestrefi dwyreiniol Melbourne[4].

"Wrth wirfoddoli yng Ngwarchodfa Natur Tidbinbilla (30 Gorffennaf 2022) fe ddois ar draws robin rosliw. Aderyn anghyffredin yn ardal Canberra a'r cyntaf i mi ei weld yn y warchodfa hon (John Bundock[1])

Ymddygiad

Maent i'w canfod fesul un neu ddau, ac yn dueddol o fwydo ar frig coed[5]. Pryfed a phryfed cop sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o'r diet, gyda'r rhan fwyaf yn cael eu dal tra'i fod yn hedfan. Yn wahanol i robinnod eraill, nid yw'r robin rosliw yn dychwelyd i'r un gangen wrth chwilota. Mae ysglyfaeth yn cynnwys amrywiaeth o bryfed cop a phryfed, gan gynnwys lindys, gwenyn meirch, chwilod fel cicadas a chwilod cinch, chwilod fel chwilod gemwaith, chwilod dail, chwilod a gwiddon sy'n bwyta dail, pryfed a morgrug.

Teulu

Mae'r robin rosliw yn perthyn i deulu'r Robinod Awstralia (Lladin: Petroicidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Gwybed-robin yr afon Monachella muelleriana
Robin amryliw Petroica multicolor
Robin bengoch Petroica goodenovii
Robin binc Petroica rodinogaster
Robin garned Eugerygone rubra
Robin lychlyd Peneoenanthe pulverulenta
Robin rosliw Petroica rosea
Robin twtwai Petroica australis
Robin y graig Petroica archboldi
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Simpson DP (1979). Cassell's Latin Dictionary (5th ed.). London: Cassell Ltd. p. 883. ISBN 0-304-52257-0.
  2. Loynes, Kate; Joseph, Leo; Keogh, J. Scott (2009). "Multi-locus phylogeny clarifies the systematics of the Australo-Papuan robins (Family Petroicidae, Passeriformes)". Molecular Phylogenetics and Evolution. 53 (1): 212–19. doi:10.1016/j.ympev.2009.05.012. PMID 19463962.
  3. Beruldsen, G (2003). Australian Birds: Their Nests and Eggs. Kenmore Hills, Qld: self. p. 339. ISBN 0-646-42798-9
  4. "Fauna in Monash Indigenous Reserve Corridors". Monash City Council website. Archived from the original on 2008-05-11. Retrieved 2008-05-02
  5. Simpson K, Day N, Trusler P (1993). Field Guide to the Birds of Australia. Ringwood, Victoria: Viking O'Neil. p. 174. ISBN 0-670-90478-3.
Safonwyd yr enw Robin rosliw gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.