Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr
Etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir Feirionnydd ym 1792, gan ddal ei afael ar y sedd yn barhaus trwy 14 Senedd hyd at 1836. Er gwaethaf ei yrfa hir yn y senedd cododd i siarad yn y tŷ dim ond unwaith. Yr oedd yn clywed drafft yn dyfod ato trwy ffenestr oedd yn agored o'r tu ôl iddo, a gofynnodd i'r llefarydd i gael rhywun i'w cau.[2] Penodwyd ef yn Uchel SiryfSir Feirionnydd am dymor 1837-38. Priododd Anna Maria, merch Syr Roger Mostyn, 5ed Barwnig, o Fostyn, Sir y Fflint a Gloddaeth, Sir Gaernarfon.
Syr Robert oedd yr uchelwr Cymreig olaf i gyflogi Bardd a Thelynor Llys [3]
Bu farw ym 1843 a'i gladdu yn Eglwys y Plwyf, Llanfachreth.