Llenor, beirniad ac eisteddfodwr brwd o Gymru oedd Robert Lloyd, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Llwyd o'r Bryn (29 Chwefror1888 – 28 Rhagfyr1961). Mae ei lyfr adnabyddus Y Pethe yn llawn o ddisgrifiadau ac atgofion o'i fro enedigol a'i chymdeithas drwyadl Gymraeg.
Ganed Llwyd o'r Bryn ar fferm ei rieni rhwng Cefnddwysarn a Llandderfel, ger Y Bala, Meirionnydd, yn 1888. Gweithiodd ar fferm ei dad a daeth ei brofiad o fyd amaeth a diwylliant anghydffurfiol y fro yn ddylanwad mawr arno. Bathodd y term 'Y Pethe', teitl ei gyfrol enwog, i gynrychioli'r traddodiad gwerinol Cymraeg diwylliedig a'i werthoedd gorau.