O du ei fam disgynnai Robert Isaac Jones o deulu Dr. Roberts, Isallt, Eifionydd, teulu enwog fel meddygon, a honnai yntau ddawn arbennig fel meddyg pobl ac anifeiliaid. (Yn 1884 cyhoeddodd lyfryn preifat tan yr enw Hanes ac Achyddiaeth Teulu Isallt. Cafodd addysg yn ardal ei gartref a thua 1831 aeth yn brentis at fferyllydd ym Mhwllheli; bu wedyn yng Nghaernarfon a Llundain. Yn 1838 agorodd fasnach fferyllydd yn Nhremadog, a alwai yn 'Cambrian Pill Depot,' a gwnaeth enw iddo'i hun gyda'r pelenni a hysbysebai fel meddyginiaeth anffaeledig at bob math o anhwylderau dynol[2][3].
Llenor a hynafiaethydd
Roedd yn eisteddfodwr brwd a chyfansoddodd sawl cerdd. Nid oes bri mawr ar ei gerddi erbyn heddiw, ond gwnaeth gyfraniad fel golygydd a hynafiaethydd a gofir o hyd. Gwnaeth gasglaid o hynafiaethau ei fro a gyhoeddwyd ganddo yn y gyfrol Y Gestiana (1892). Ei gyfraniad mwyaf yn y maes hwnnw fodd bynnag oedd cyhoeddi'r cylchgrawn hynafiaethol Y Brython. Yn y cylchgrawn hwnnw cyhoeddwyd nifer o gerddi canoloesol o waith y Cywyddwyr ac eraill a manion hynafiaethol o bob math; cyhoeddwyd yn ogystal nifer o chwedlau gwerin Cymraeg, dywediadau'r werin a phenillion telyn. D. Silvan Evans oedd y golygydd cyntaf cyn i Alltud Eifion ei hun gymryd yr awenau.[1]
Y Brython
Cychwynnodd hefyd argraffwasg y tu ôl i'w siop yn Nhremadog, ac argraffodd yno lawer o gyhoeddiadau a llyfrau Cymraeg[3]. Cylchgrawn anenwadol misol, Cymraeg ei iaith a oedd yn cyhoeddi erthyglau ar lenyddiaeth, hynafiaeth a llên gwerin. Golygwyd y cylchgrawn gan Robert Isaac Jones rhwng Mehefin a Hydref 1858 a 1860-1863, efo'r geiriadurwr Daniel Silvan Evans (1818-1903) yn cymryd yr awenau yn ei absenoldeb. Ond oherwydd diffyg cefnogaeth ni chyhoeddwyd ar ôl 1863[3].
Bu farw 7 Mawrth 1905, a chladdwyd ef ym mynwent Ynyscynhaearn[3].