Morwr, arloeswr a meteorolegydd o Loegr oedd Robert FitzRoy (5 Gorffennaf 1805 – 30 Ebrill 1865). Mae'n fwyaf adnabyddus am fod yn gapten y llong enwog HMS Beagle ar fordaith y naturiaethwr Charles Darwin o gwmpas y byd rhwng 1831 a 1836.
Yn ogystal, roedd Fitzroy yn lywodraethwr Seland Newydd rhwng 1843 a 1845.
Roedd yn perthyn i'r Brenin Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban.