Gweinidog o Ddinorwig oedd Robert David Roberts (3 Tachwedd 1820 – 15 Mai 1893).
Cefndir
Ni chafodd fawr o addysg pan yn blentyn, nac ychwaith addysg athrofaol wedi dechrau ohono bregethu. Bedyddiwyd ef yn 12 oed a dechreuoddodd bregethu yn 1839. Aeth am gyfnod byr yn genhadwr dros gyfarfod misol Arfon i hen faes Christmas Evans yn Llyn, ond dychwelodd i Sardis lle yr ordeiniwyd ef a'r ‘Hen Gloddiwr’ i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1844. Cydweinidogaethai'r ddau i'r eglwysi cylchynol am rai blynyddoedd. Symudodd R. D. Roberts i Bontllyfni a Llanaelhaearn yn nechrau 1848, ond cyn diwedd y flwyddyn honno yr oedd wedi ymsefydlu yn Llanfachraeth a Llanddeusant, Môn. Symudodd drachefn i Tabernacl, Merthyr, yn 1854, ac i Soar, Llwynhendy, yn 1862 ac fel ‘Roberts Llwynhendy’ yr aeth yn enwog. Bu yno am chwarter canrif cyn ymddeol yn 1887.[1]
Ffynonellau
- J. Rhys Morgan (‘Lleurwg’), Cofiant y diweddar Barch. R. D. Roberts, Llwynhendy : gyda darlun a dwy o'i brif *bregethau
- D. Hopkin, Cofiant y Parchedig Robert David Roberts
- ‘Atgofion yr Hen Gloddiwr,’ yn Y Greal sef Cylchgrawn Misol at wasanaeth y Bedyddwyr, 1879
- ‘Atgofion R. D. Roberts,’ yn Y Greal sef Cylchgrawn Misol at wasanaeth y Bedyddwyr, 1889-92
- Seren Gomer, Gorffennaf 1893
- Y Geninen, Hydref 1893
- Cymru (O.M.E.), vii, 141
- Baptist Handbook, 1894
- Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru (1893–1907), iv, 327
Cyfeiriadau