Richard Vaughan, 2il Iarll Carbery |
---|
|
Ganwyd | 1600 |
---|
Bu farw | 3 Rhagfyr 1686 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | - Whitgift School
|
---|
Galwedigaeth | gwleidydd |
---|
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1624–5, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1625, Member of the 1626 Parliament, Member of the 1628-29 Parliament |
---|
Tad | John Vaughan |
---|
Mam | Margaret Meyrick |
---|
Priod | Bridget Lloyd, Frances Vaughan, Alice Vaughan |
---|
Plant | John Vaughan, 3ydd Iarll Carbery, Francis Vaughan, Altham Vaughan |
---|
Milwr a gwleidydd Cymreig oedd Richard Vaughan, 2il Iarll Carbery o'r Gelli Aur, Sir Gaerfyrddin (c. 1600 – 3 Rhagfyr 1686).
Roedd yn fab i John Vaughan, Iarll 1af Carbery a Margaret Meyrick. Bu'n Aelod Seneddol dros Sir Gaerfyrddin o 1624 hyd 1626 ac o 1628 hyd 1629. Dilynodd ei dad fel Iarll Carbery yn 1634, ac ar 25 Hydref 1643, cafodd y teitl Barwn Vaughan o Emlyn.
Bu'n gweithredu fel Custos Rotulorum Sir Gaerfyrddin o 1630 hyd 1646 ac o 1670 hyd 1686, a hefyd yn yr un swydd dros Sir Benfro o 1643 hyd 1646 a thros Sir Aberteifi o 1644 hyd 1646 ac o 1660 hyd 1686. O 1660 hyd 1672, roedd yn Arglwydd Arlywydd Cymru, a daliodd nifer o swyddi eraill.
Priododd dair gwaith, yn gyntaf a Bridget Lloyd, merch Thomas Lloyd, yn ail a Frances Altham, ac yn drydydd a'r Fonesig Alice Egerton yn 1652. Rhoddodd ef a'i ail wraig loches i Jeremy Taylor yn y Gelli Aur yn ystof Rhyfel Cartref Lloegr, ac yno yr ysgrifennodd Tayloe ei lyfr enwog Holy Living and Holy Dying.