aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig
Roedd yr Arglwydd Richard yn drydedd a'r ieuengaf o feibion Richard Grosvenor, 2il Ardalydd Westminster a'r Foneddiges Elizabeth Mary, merch George Leveson-Gower , Dug Sutherland. Roedd Hugh Grosvenor, Dug 1af Westminster yn frawd hŷn iddo [2]. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster a Choleg y Drindod, Caergrawnt[3]. Yn ystod ieuenctid anturus aeth ar daith trwy Gorllewin Gwyllt yr Unol Daleithiau ac roedd yn bresennol ystod Anrhaith Palas yr Haf ym Mheicin yn ystod yr Ail Ryfel Opiwm.
Gyrfa Wleidyddol
Roedd Grosvenor yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir y Fflint o 1861 hyd 1886[4]. Ym 1872 daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor a benodwyd yn Is-siambrlen yr Aelwyd gan y Brif Weinidog William Ewart Gladstone, swydd y bu ynddi hyd i'r llywodraeth syrthio ym 1874. Pan ddychwelodd y Rhyddfrydwyr i rym ym 1880 fe gafodd ei benodi gan Gladstone yn Ysgrifennydd Seneddol i'r Trysorlys. Arhosodd yn y swydd honno hyd 1885. Roedd yn anghytuno gyda Gladstone dros achos Ymreolaeth i'r Iwerddon ac ymddiswyddodd fel Aelod Seneddol mewn protest ym 1886[5]. Ar adeg ei ymddiswyddiad cafodd ei ddyrchafu i Dŷ’r Arglwyddi gan ddwyn y teitl y Barwn Stalbridge, o Stalbridge yn Dorset. Daeth yn arweinydd y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol o Dŷ'r Arglwyddi.
Bywyd y tu allan i'r Senedd
Ar 15 Ebrill 1882, penodwyd Grosvenor yn gyrnol anrhydeddus o'r Dorset Yeomanry, swydd y bu ynddi hyd 1895. Ym 1891, penodwyd ef yn gadeirydd Rheilffyrdd Llundain a'r Gogledd Orllewin, cwmni y bu'n gyfarwyddwr arni ers 1870. Ym 1867 ef oedd pennaeth y pwyllgor rhyngwladol i hyrwyddo'r Twnnel y Sianel, a oedd yn ystyried adeiladu rheilffordd o dan Fôr Udd i gysylltu Prydain a Ffrainc blynyddoedd maith cyn i'r fath brosiect cael ei wireddu.
Teulu
Priododd Arglwydd Stalbridge ddwywaith[6]. Ei wraig gyntaf oedd yr Anrh. Beatrice Charlotte Elizabeth Vesey, merch Thomas Vesey, 3ydd Is-iarll de Vesci, bu eu priodas ar 5 Tachwedd 1874. Bu hi farw ym 1876 yn fuan ar ôl genedigaeth eu hunig blentyn.
Priododd Eleanor Frances Beatrice Stubber (bu f. 1911) ei ail wraig ar 3 Ebrill 1879, ganwyd iddynt bump o blant.
Bu farw'r Arglwyddes Stalbridge ym mis Mawrth 1911, blwyddyn cyn marwolaeth ei gŵr ym mis Mai 1912. Olynwyd ef yn y Farwniaeth gan Hugh ei fab hynaf.
↑James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8