Llenor, bardd a newyddiadurwr o Gymru oedd Richard Griffith (26 Hydref 1861 – 25 Mai 1947), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol, Carneddog.[1]
Bywgraffiad
Ganed Carneddog yn 1861 yn ffermdy Y Carneddi, plwyf Nantmor, ger Beddgelert, Gwynedd. Bu'r ffermdy yn gartref i'w hynafiaid am genedlaethau a bu Carneddog yn byw yno ar hyd ei oes hyd 1945 pan symudodd ef a'i wraig i fyw yn nhŷ eu mab yn Hinckley, yn Swydd Gaerlŷr, Lloegr. Mae'r llun a dynodd y ffotograffydd Cymreig Geoff Charles o Garneddog a'i wraig ar riniog ei hen ffermdy yn ffarwelio ag Eryri yn cael ei ystyried gan lawer yn llun eiconig sy'n cynrychioli'r newid mawr a ddaeth i'r Gymru Gymraeg yn yr 20g. Bu farw Carneddog yn swbwrbia Hinckley ddwy flynedd ar ôl gadael Eryri.[1]
Gwaith llenyddol
Ffermwr defaid oedd Carneddog o ran ei waith, ond cyfranodd nifer o erthyglau i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg yn cynnwys Baner ac Amserau Cymru, Y Genedl Gymreig, a'r Herald Cymraeg. Er na chafodd ond ychydig o addysg ffurfiol, roedd yn hyddysg yn hanes ei fro. Cyhoeddodd sawl llyfr Cymraeg, yn cynnwys cofiannau i Richard Owen (Glaslyn) a John Jones (Jac Glan-y-Gors). Roedd yn fardd yn ogystal.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
Llyfrau Carneddog
- Gwreichion y Diwygiadau (Llyfrau ab Owen, 1905)
- Gwaith Glan y Gors (golygydd Cyfres y Fil, 1905)
- Blodau'r Gynghanedd
- Cerddi Eryri (1927)
- Ceinion y Cwm
Llyfrau amdano
Cyfeiriadau